Cyfle i weithio, gorffwys a chwarae
9 Mai 2022
Yr Ysgol yn datblygu gweithgareddau cymunedol yn sgîl llwyddiant Gŵyl yr Wythnos Ddarllen
Mae myfyrwyr yn elwa ar ystod gynyddol o weithgareddau yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.
Yn dilyn digwyddiad agoriadol llwyddiannus yn 2021, fe gyflwynodd yr ysgol Ŵyl Wythnos Ddarllen y Gwanwyn wythnos o hyd. Roedd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau rhad ac am ddim i gefnogi lles yn ogystal ag adlewyrchu eu hangerdd a'u pynciau gradd.
Dros 5 diwrnod, manteisiodd myfyrwyr presennol ar leoliad dinesig canolog y Brifysgol, ble cynigwyd teithiau rhad ac am ddim o amgylch lleoliad eiconig Stadiwm Principality ac adeilad Senedd Cymru ym Mae Caerdydd.
Fe gymerodd israddedigion ac ôl-raddedigion, fel ei gilydd, ran mewn ystod eang o weithdai, sgyrsiau a seminarau, o ysgrifennu eich llyfr eich hun, i addysgu Saesneg ledled y byd. Roedd sesiynau hefyd gan y tîm cefnogi llwyddiant yn y Ganolfan Cymorth Ysgrifennu a oedd yn trafod gwahanol dechnegau sy’n gallu gwella ysgrifennu academaidd.
Roedd sesiynau Gŵyl Wythnos Ddarllen y Gwanwyn hefyd yn adlewyrchu angerdd staff, megis seminar ar-lein ar Howl’s Moving Castle, anime Studio Ghibil.
Daeth cyfleoedd cymunedol â myfyrwyr ynghyd mewn Cwis Cymdeithasol yn Undeb y Myfyrwyr a digwyddiad cymdeithasol arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi ble’r oedd ffair â thema Gymreig, a’r delyn draddodiadol, yn adeilad cartref yr ysgol.
Yn benodol, roedd y sesiwn Cŵn Tywys yn arbennig o boblogaidd. Gan esbonio'r broses hyfforddi, bydd y sesiwn lles ymarferol hon yn cael ei chynnal eto’r mis hwn (9 a 13 Mai, caffi Adeilad John Percival) ac mae'n cael ei chynnig i ragor o fyfyrwyr ar draws Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae’r Gwyliau Wythnos Ddarllen yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd erbyn hyn. Maent yn agored i bob myfyriwr yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.