Yn ôl astudiaeth, mae’n bosibl mai tir ffermio Ewropeaidd yw’r gronfa fwyaf o ficroblastigau yn y byd
6 Mai 2022
Mae ymchwil newydd wedi dangos mai ffermydd ledled Ewrop hwyrach yw'r gronfa fwyaf o ficroblastigau yn y byd oherwydd y crynodiadau uchel mewn gwrtaith sy'n deillio o slwtsh mewn carthion.
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Manceinion yn amcangyfrif bod rhwng 31,000 a 42,000 tunnell o ficroblastigau (neu 86 — 710 triliwn o ronynnau microblastig) yn cael eu gwasgaru ar hyd priddoedd ledled Ewrop bob blwyddyn, gan adlewyrchu'r crynodiad o ficroblastigau a geir yn nyfroedd wyneb y cefnforoedd
Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Environmental Pollution, mae'r tîm yn amcangyfrif bod microblastigau sy'n cael eu tynnu o garthion amrwd mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff yn gyfystyr â thua 1% o bwysau slwtsh carthion a ddefnyddir yn gyffredin yn wrtaith ar ffermydd ledled Ewrop.
Dangoswyd ei bod yn bosibl mai’r DU sydd â’r halogiad microblastig uchaf yn ei phriddoedd, gan fod 500 - 1000 o ronynnau microblastig fesul metr sgwâr o dir amaethyddol yn cael eu gwasgaru bob blwyddyn, ac wedyn daw Sbaen, Portiwgal a'r Almaen.
Defnyddir slwtsh carthion yn gyffredin ar dir amaethyddol yn ffynhonnell gynaliadwy ac adnewyddadwy o wrtaith ledled gwledydd yn Ewrop, yn rhannol oherwydd cyfarwyddebau'r UE sy'n hyrwyddo dargyfeirio slwtsh carthion i ffwrdd o safleoedd tirlenwi a llosgi i gyfeiriad cynhyrchu ynni ac amaethyddiaeth.
Yn y pen draw, bydd microblastigau sy'n cael eu gwasgaru ar dir ffermio yn cael eu cludo'n ôl i'r cwrs dŵr naturiol yn sgîl dŵr ffo wyneb neu ar ôl i ddŵr daear ymdreiddio iddo.
Gan fod microblastigau'n llai na 5mm o faint, maen nhw’n fygythiad sylweddol i fywyd gwyllt gan eu bod yn hawdd eu llyncu a hwyrach bod ganddynt halogion, cemegau gwenwynig a phathogenau peryglus, gan effeithio hwyrach ar y gadwyn fwyd gyfan.
“Mae ein hymchwil yn gofyn a yw microblastigau mewn gwirionedd yn cael eu tynnu mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff, neu a ydyn nhw i bob diben yn cael eu symud o gwmpas yr amgylchedd,” meddai prif awdur yr astudiaeth, James Lofty, o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd.
“Mae diffyg strategaeth amlwg gan gwmnïau dŵr i reoli microblastigau mewn slwtsh carthion yn golygu bod yr halogion hyn yn cael eu cludo'n ôl i'r pridd ac yn y pen draw yn dychwelyd i'r amgylchedd dyfrol.”
Yn eu hastudiaeth, cymerodd y tîm samplau o Waith Trin Dŵr Gwastraff Trefonnen yng Nghasnewydd, de Cymru, sy'n trin carthion cyfunol poblogaeth o 300,000.
Datgelodd eu dadansoddiad fod y gwaith trin yn 100% effeithiol wrth dynnu gronynnau microplastig mawr, 1 – 5mm o faint, o garthion sy'n dod i mewn a fyddai fel arall yn cael eu rhyddhau i'r amgylchedd dyfrol.
Dangoswyd bod pob gram o slwtsh carthion yn cynnwys hyd at 24 o ronynnau microplastig, sef tua 1% o'i bwysau.
Wedyn, defnyddiwyd y data hwn wedyn i asesu'r effaith ar draws Ewrop gan ddefnyddio ffigurau gan y Comisiwn Ewropeaidd ac Eurostat ynghylch defnyddio a gwasgaru slwtsh carthion yn wrtaith ar draws y cyfandir.
Gan nad oedd yr ymchwilwyr wedi dadansoddi microblastigau a oedd yn llai nag 1mm o ran maint, mae'r crynodiadau cyffredinol yn debygol o fod yn llawer uwch na'u hamcangyfrifon.
“Mae ein canlyniadau'n tynnu sylw at faint y broblem ar draws priddoedd Ewrop ac yn awgrymu y gallai'r arfer o wasgaru slwtsh ar dir amaethyddol beri eu bod yn un o'r cronfeydd mwyaf o lygredd microblastig yn y byd,” ychwanegodd James Lofty.
“Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddeddfwriaeth Ewropeaidd ar hyn o bryd sy'n cyfyngu ar, neu’n rheoli, fewnbwn microblastig i slwtsh carthion a ailgylchir yn seiliedig ar lwythi a gwenwyndra amlygiad microblastig.
“Dylid ymdrechu i gynyddu monitro safonol ar gyfer crynodiadau microblastig mewn slwtsh carthion a phriddoedd amaethyddol, gan y byddai hyn yn rhoi darlun mwy cywir o’r halogi sy’n digwydd mewn priddoedd ledled Ewrop.”