Fideo: Etholiad Gogledd Iwerddon 2022
4 Mai 2022
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/2622799/danw.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Cynhaliodd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ddigwyddiad ar-lein ar etholiad Gogledd Iwerddon, sydd yn digwydd yr wythnos hon.
Bu panel o academyddion blaenllaw yn trafod y polau piniwn diweddaraf, gwahanol ragolygon o ffurf y llywodraeth nesaf, a'r newidiadau posibl o fewn y blociau dynodedig gwahanol yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon.
Mae fideo o'r digwyddiad bellach ar gael.