Darganfod bôn-gelloedd yn cynnig gobaith newydd i bobl â chlefyd llygaid sych
29 Ebrill 2022
Bu ymchwilwyr o Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhan o dîm o wyddonwyr sydd wedi darganfod sut i gynhyrchu chwarennau dagrau bychain o fôn-gelloedd aml-botensial dynol (iPs) er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau clefyd llygaid sych.
Mae chwarennau dagrau uwchben y naill lygad a’r llall, a’r rhain sy’n cynhyrchu hylif dagrau, yn rhan o'r ffilm dagrau. Os nad yw chwarren yn gweithio fel y dylai, gall achosi clefyd llygaid sych - cyflwr cyffredin sy'n anghysurus i’r sawl sy’n dioddef ohono, ac a all, os na chaiff ei drin, arwain at nam hirdymor ar y golwg.
Gwyddonwyr ym Mhrifysgol Osaka yn Japan wnaeth arwain yr ymchwil. Fe ddangoson nhw sut y gellir tyfu celloedd iPS dynol, o dan amodau penodol yn y labordy, gan ddefnyddio celloedd croen aeddfed roedd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Kyoto yn Japan wedi’u casglu. Roedd yr ymchwilwyr yn gallu ffurfio clystyrau bach dau ddimensiwn o gelloedd, o'r celloedd iPS, gan ail-greu, yn rhannol, sut mae'r llygad dynol yn datblygu. Roedd celloedd yn y clystyrau dau ddimensiwn hyn, oedd yn debyg i gelloedd fyddai’n tyfu i fod yn chwarennau dagrau, ac fe’u casglwyd a'u trin ymhellach mewn tri dimensiwn, er mwyn ffurfio'r organoidau meinwe tebyg i chwarennau dagrau.
Cyhoeddwyd yr ymchwil yn y cyfnodolyn gwyddonol - Nature, ac mae ganddo botensial gwirioneddol i'w ddefnyddio mewn meddygfeydd trawsblaniadau yn y dyfodol ar gyfer cleifion â chlefyd llygad sych sy'n gysylltiedig â chwarren lacrimal. Mae potensial hefyd i ddylunio a phrofi meddyginiaethau newydd ar gyfer camweithrediad chwarren lacrimal.