Darlith yr Athro Hannah Fry yn nodi agoriad Abacws
28 Ebrill 2022
Mae'r mathemategydd a'r cyflwynydd teledu, yr Athro Hannah Fry, wedi traddodi darlith wadd i nodi agoriad adeilad newydd sbon Abacws Prifysgol Caerdydd.
O flaen torf fawr, rhannodd yr Athro Fry straeon rhyfeddol am yr hyn sy'n digwydd ar flaen y gad ym maes gwyddor data a sut mae mathemateg yn llywio'r gymdeithas rydyn ni'n byw ynddi heddiw.
Roedd y digwyddiad arbennig yn nodi agoriad Abacws, cyfleuster newydd sbon sy'n arwain y byd ac sy'n gartref i Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ac Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd.
Wedi'i leoli ar Heol Sengenhydd wrth ymyl gorsaf reilffordd Cathays, mae'r adeilad chwe llawr wedi arloesi ffordd newydd o weithio i Brifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio ar gydweithio a gweledigaeth a rennir, tra'n cynnal hunaniaethau unigol y ddwy Ysgol a leolir yn Abacws.
Mae'r adeilad gwerth £39 miliwn yn cwmpasu 10,000 metr sgwâr ac wedi'i ddylunio mewn cydweithrediad â myfyrwyr a staff academaidd i greu mannau gwaith rhyngddisgyblaethol, hyblyg a chreadigol, gyda mannau addysgu arloesol.
Hefyd, mae lleoedd i bartneriaid diwydiannol ymgysylltu â myfyrwyr, ynghyd â gweithdy Markerspace a TG i gefnogi prosiectau cyfrifiadureg ymarferol, Ystafell Fasnachu ffug newydd ar
gyfer mathemateg ariannol, a labordai addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf ar gyfer seiberddiogelwch, cyfrifiadura sy'n canolbwyntio ar bobl a'r Rhyngrwyd Pethau.
Wrth draddodi'r cyflwyniad, o'r enw 'Data Difyr', yn narlithfa 250 sedd Abacws, bu'r Athro Fry yn swyno'r gynulleidfa gyda llu o straeon annisgwyl a hyfryd a adroddwyd drwy lygaid data. Eglurodd sut y gall golwg gwyddor data ar yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddynol lywio'r ffordd yr ydym yn dylunio ein cymdeithas, gan gynnwys canlyn, gofal iechyd, a hyd yn oed ddal llofruddion cyfresol.
Enillodd yr Athro Fry Fedal Zeeman fawreddog am ei gwaith yn ymgysylltu â’r cyhoedd yn y DU ynghylch mathemateg. Mae hi'n gyflwynydd dibynadwy ac adnabyddus ac yn Athro mewn Mathemateg Dinasoedd yng Nghanolfan Coleg y Brifysgol Llundain ar gyfer Dadansoddi Gofodol Uwch.
Gelwir ar ei harbenigedd yn rheolaidd i ddatblygu a chynnal rhaglenni dogfen ac mae dilynwyr ffyddlon yn mwynhau ei rhaglenni radio bywiog, ei phodlediadau a'i llyfrau.
Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd yr Athro Fry: "Roedd yn fraint wirioneddol cael fy ngwahodd i Brifysgol Caerdydd i draddodi'r ddarlith a gwneud hynny mewn lleoliad mor wych. Mae adeilad Abacws yn rhywbeth y dylai'r brifysgol fod yn falch ohono ac rwy'n siŵr y bydd y staff a'r myfyrwyr yn mwynhau gweithio yma.
"Roedd hefyd yn ysbrydoledig iawn gweld y gynulleidfa'n ymgysylltu cymaint â'r hyn oedd gen i i'w ddweud ac i gael y cyfle i ganu clodydd data, mathemateg a gwyddoniaeth yn fwy cyffredinol o flaen cynulleidfa mor gyfareddol, oherwydd mae data yn ganolog i’n bywydau."
Dyma a ddywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Roedd yn bleser mawr croesawu'r Athro Fry i'r Brifysgol i nodi agoriad Abacws a bod yn rhan o gyflwyniad mor ddiddorol a chraff.
"Bydd gwneud synnwyr o'r symiau enfawr o ddata sydd ar gael i ni yn allweddol i ddatrys llawer o'r heriau sy'n ein hwynebu mewn cymdeithas a bydd angen dull cydweithredol ac arloesol sy'n cwmpasu cyfrifiadureg a mathemateg.
"Y natur ryngddisgyblaethol, gydgysylltiedig hon o weithio yw conglfaen Abacws, ac rydw i wrth fy modd bod ein myfyrwyr a’n staff yn gallu defnyddio’r cyfleusterau rhagorol erbyn hyn a bod perthnasoedd a ffyrdd newydd o weithio yn gallu ffynnu.”
Roedd y ddarlith gwadd yn un o nifer o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod y mis i nodi agoriad swyddogol Abacws, gan gynnwys cystadleuaeth 'Game of Codes' lle cafodd plant ysgol o bob rhan o Gymru y dasg o greu darn o feddalwedd ar y thema 'Goresgyn Newid yn yr Hinsawdd'.
Gwahoddwyd yr enillwyr oedd ar restr fer y gystadleuaeth i ddiwrnod olaf 'Game of Codes' yn Abacws i arddangos eu gwaith, yna cafodd yr enillwyr wrando ar ddarlith Dr Fry.