Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi Uwch Arweinwyr Ymchwil gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

29 Ebrill 2022

SPARK building image by Will Scot

Mae carfan o academyddion talentog o Barc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARK) ymhlith rhestr o Uwch Arweinwyr Ymchwil a gyhoeddwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan gynnwys athro o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.

Penodwyd tri uwch arweinydd o ganolfannau ymchwil SPARK gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o arwain a datblygu'r gymuned ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru. I gydnabod y rôl bwysig hon, mae'r uwch arweinwyr ymchwil hyn hefyd yn derbyn gwobr ymchwil ddewisol bob blwyddyn i gefnogi eu gweithgarwch ymchwil eu hunain. Maent yn ymuno ag un ar ddeg o uwch arweinwyr ymchwil eraill o bob rhan o Gymru, ac mae gan lawer ohonynt gysylltiadau cryf â SPARK hefyd.

Mae'r Athro Graham Moore yn gweithio ar draws ystod o fuddsoddiadau a seilwaith ymchwil, gan gynnwys y Ganolfan Gwerthuso Datblygu Cymhlethdod a Gweithredu mewn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc – y ddau yn aelodau o SPARK. 

Dywedodd yr Athro Moore, sy'n cyd-arwain ffrwd waith ymchwil iechyd meddwl mewn ysgolion Canolfan Wolfson: "Mae'n fraint fawr cael fy newis fel un o Uwch Arweinwyr Ymchwil HCRW eleni. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â chydweithwyr uchel eu parch ym maes ymchwil iechyd a gofal, sydd wedi'u lleoli yng Nghanolfan Wolfson ac yn ehangach yng nghymuned SPARK a Phrifysgol Caerdydd."

Mae Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yn dod â chanolfannau a sefydliadau ymchwil sy'n arwain yn rhyngwladol at ei gilydd mewn sbarc|spark ar Gampws Arloesedd Caerdydd. Mae timau ymchwil rhyngddisgyblaethol SPARK yn mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar bob un ohonom, o achosion diweithdra i ffyrdd o'n gwneud yn iachach ac yn fwy diogel.

Dywedodd yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd SPARK: "Rwy'n croesawu'r penodiadau hyn yn fawr wrth i ni fynd ar ein taith yn SPARK. Maent yn dangos ein cryfderau, yn enwedig ym meysydd ymchwil iechyd a gofal, a byddant yn ein helpu i ddatblygu mwy o gydweithio â phrifysgolion a sefydliadau eraill sy'n gweithio yn y gymuned iechyd a gofal."

Dysgwch fwy am aelodau eraill cymuned SPARK a Phrifysgol Caerdydd sydd wedi'u penodi'n Uwch Arweinwyr Ymchwil ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.