Prifysgol Caerdydd yn sicrhau £2.7m i gynnal clwstwr ymchwil newydd ym maes clefydau niwroddatblygiadol a niwroseiciatrig
19 Ebrill 2022
Bydd y grŵp ymchwil newydd yn cael ei arwain gan yr Athro Anthony Isles o'r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol.
Mae Rhwydwaith Cenedlaethol Geneteg Llygod y Cyngor Ymchwil Feddygol yn deillio o fuddsoddiad newydd mawr gwerth £22 miliwn ym maes geneteg llygod er mwyn gwneud gwaith modelu clefydau, a fydd yn manteisio ar ragoriaeth ryngwladol y DU ym maes y gwyddorau biofeddygol.
Mae i'r Rhwydwaith saith clwstwr ymchwil sy’n cael eu harwain gan heriau, ac mae’r aelodau wedi’u lleoli ledled y DU. Bydd yr unig glwstwr yng Nghymru wedi'i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’r Cyngor Ymchwil Feddygol yn buddsoddi ~£2.7m yng nghlwstwr MURIDAE (Dulliau o Ddeall, Cofnodi ac Integreiddio Data mewn Bywyd Cynnar) dan arweiniad yr Athro Anthony Isles yng Nghanolfan y Cyngor ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd. Nod y clwstwr yw nodi dulliau newydd o astudio'r cyfnod ôl-enedigol cynnar mewn modelau llygod o glefydau niwroddatblygiadol a niwroseiciatrig.
Canolbwynt y Rhwydwaith fydd Canolfan Mary Lyon yn Harwell. Bydd yn rhannu cyfleusterau arbenigol, adnoddau, data a hyfforddiant gyda holl aelodau eraill y Rhwydwaith, ac mae'n cael £5.5 miliwn i gefnogi'r rôl hon. Bydd y partneriaethau a sefydlwyd gan y Rhwydwaith yn ei gwneud yn bosibl cyfuno ymchwil sylfaenol a chanfyddiadau clinigol er mwyn sicrhau y gallwn ddeall clefydau dynol a sicrhau budd i gleifion yn gyflymach.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Rhwydwaith, Owen Sansom: "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi'r set gyntaf hon o glystyrau ymchwil sy'n ffurfio Rhwydwaith Cenedlaethol Geneteg Llygod y Cyngor Ymchwil Feddygol a’r cyd-ymdrech i sicrhau bod gwyddoniaeth cyn-glinigol yn effeithiol drwy rannu data, adnoddau ac arbenigedd yn drwyadl.
"Drwy feithrin cysylltiadau rhwng ymchwilwyr sy'n gweithio mewn meysydd mor amrywiol, a thrwy ddatblygu seilwaith rhannu data cynhwysfawr, bydd y Rhwydwaith yn creu platfform sy'n cysylltu ymchwil geneteg llygod â datblygiadau clinigol yn well."
Y saith thema yw:
- 1Canser, dan arweiniad yr Athro Karen Blyth yn Sefydliad Beatson Ymchwil Canser y DU/Prifysgol Glasgow a'r Athro Louis Chesler yn y Sefydliad Ymchwil Canser
- Anomaleddau Cynhenid, dan arweiniad yr Athro Karen Liu yng Ngholeg y Brenin Llundain
- Tagio Degronau, dan arweiniad Dr Andrew Wood yn Uned Geneteg Ddynol y Cyngor Ymchwil Feddygol ym Mhrifysgol Caeredin
- Haem, dan arweiniad Dr David Kent ym Mhrifysgol Caerefrog
- Microfiomau, dan arweiniad yr Athro Fiona Powrie ym Mhrifysgol Rhydychen
- Mitocondria, dan arweiniad Dr Robert Pitceathly yn Sefydliad Niwroleg Sgwâr y Frenhines Coleg Prifysgol Llundain
- MURIDAE (Dulliau o Ddeall, Cofnodi ac Integreiddio Data mewn Bywyd Cynnar), dan arweiniad yr Athro Anthony Isles yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd
Rhagor o wybodaeth am Rwydwaith Cenedlaethol Geneteg Llygod y Cyngor Ymchwil Feddygol