Newyddiaduraeth yn ennill gwobr am y trydydd tro
5 Mai 2022
Mae Newyddiaduraeth Newyddion, y cwrs newyddiaduraeth hynaf ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi ennill gwobr NCTJ ar gyfer cwrs ôl-raddedig addysg uwch sy'n perfformio orau ar gyfer 2020-21.
Mae'r wobr, sydd wedi'i hennill am y drydedd flwyddyn yn olynol, yn cael ei chydnabod am ddathlu'r cyrsiau newyddiaduraeth a myfyrwyr gorau yn y DU.
Mae gradd meistr mewn Newyddiaduraeth Newyddion Prifysgol Caerdydd yn unigryw gan fod graddedigion yn gadael gyda gradd meistr achrededig a Diploma mewn Newyddiaduraeth, a ddyfarnwyd gan NCTJ (Cyngor Cenedlaethol Hyfforddi Newyddiadurwyr).
Mae gwobrau perfformiad NCTJ, a gyflwynir yn flynyddol, yn seiliedig ar gyflawniadau myfyrwyr yn y Diploma mewn Newyddiaduraeth. Myfyrwyr Caerdydd a berfformiodd orau o'r holl gyrsiau ôl-raddedig a achredir gan NCTJ.
Yn gwrs newyddiaduraeth papur newydd yn wreiddiol, dyma brif radd yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ar gyfer newyddiaduraeth newyddion ar-lein ac mewn print.
Dywedodd Mike Hill, Cyfarwyddwr y cwrs Newyddiaduraeth Newyddion, "Mae’r ffaith ein bod wedi sicrhau'r wobr hon am y drydedd flwyddyn yn olynol yn dyst i ddiwydrwydd ac angerdd ein tiwtoriaid ac ymroddiad ein myfyrwyr i grefft newyddiaduraeth.
"Mae'r wobr hefyd yn adlewyrchu bod gennym record o bron i 100% o ran dod o hyd i swydd mewn newyddiaduraeth neu faes cysylltiedig i'n graddedigion. Yn eu tro, byddant hwythau yn helpu graddedigion y dyfodol gyda lleoliadau gwaith a swyddi."
Mewn gwirionedd, o’n holl raddedigion ôl-raddedig a addysgir, roedd 96% ohonynt mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd neu’n gwneud gweithgareddau eraill, fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).
Dyma a ddywedodd Kevin Maguire, Golygydd Cyswllt y Daily Mirror, “Mae'r tair gwobr hyn yn haeddiannol iawn. Rwy'n cwrdd â mwy byth o newyddiadurwyr a hyfforddodd yng Nghaerdydd ac sydd bellach yn gweithio yn ystafelloedd newyddion papurau newydd cenedlaethol, gorsafoedd radio, sianeli teledu a gwefannau amlwg. Ymlaen ac i fyny!”
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.