Trais difrifol wedi cynyddu’n sylweddol ar ôl i gyfyngiadau COVID-19 gael eu llacio – adroddiad
26 Ebrill 2022
Cynyddodd trais difrifol gan bron i chwarter yn dilyn llacio cyfnod clo COVID-19 yng Nghymru a Lloegr, yn ôl adroddiad newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Canfu Grŵp Ymchwil Trais y Brifysgol (VRG) bod ar amcangyfrif, 146,856 o bobl wedi mynd i Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys oherwydd anaf yn gysylltiedig â thrais yn 2021, cynnydd o 23% ers 2020. Mae unfed adroddiad ar hugain blynyddol VRG, yn nodi bod lefelau trais ar eu huchaf fis Awst 2021, gan gyrraedd lefelau a welwyd cyn y pandemig.
Y cynnydd hwn yw’r cynnydd blynyddol uchaf ers i gofnodion ddechrau yn 2001 – fodd bynnag, roedd cyfraddau cyffredinol trais difrifol yn 2021 yn is nag yn y blynyddoedd cyn y pandemig, gyda thueddiadau hirdymor yn dangos gostyngiad cyson.
Er gwaethaf pryderon y gallai cyfyngiadau COVID-19 fod wedi cynyddu'r risg y byddai menywod a merched yn dioddef trais difrifol, ni chanfu'r ymchwilwyr unrhyw dystiolaeth o hyn.
Astudiodd awduron yr adroddiad drais yn yr Alban am y tro cyntaf hefyd, gydag amcangyfrif bod 8,549 o bobl yn mynd i unedau brys oherwydd anaf sy'n gysylltiedig â thrais yn 2021.
Dywedodd yr Athro Jonathan Shepherd, cyd-awdur yr adroddiad: "Roedd llacio'r cyfyngiadau ar ôl cyfnod clo cenedlaethol COVID-19 yng Nghymru a Lloegr yn gysylltiedig â'r cynnydd uchaf mewn trais difrifol yn ystod un flwyddyn, ers i'n cofnodion ddechrau 21 mlynedd yn ôl."
"Roedd cysylltiad rhwng llacio'r cyfyngiadau yn 2021, â chynnydd sylweddol mewn trais difrifol; erbyn mis Awst cyrhaeddwyd lefelau cyn y pandemig.
"Ein data yw'r unig fesur cyffredinol o drais difrifol yn ystod y pandemig ac mae'n dystiolaeth o sut yr effeithiodd y cyfyngiadau ar hyn oll yn ystod cyfnod dan sylw. Mae ein canfyddiadau hefyd yn cyfeirio at flaenoriaethau atal, megis targedu adnoddau'r heddlu yn gynharach ac yn fwy manwl gywir mewn mannau sydd wedi’i nodi mewn data gan Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, yn llefydd lle ceir cryn broblemau o ran trais. Heb y wybodaeth fanwl hon, nid yw’r heddlu'n ymwybodol o bryd a ble mae hanner y trais difrifol hwn yn digwydd."
Dangosodd data a gasglwyd ac a ddadansoddwyd gan y VRG o 74 o unedau brys yng Nghymru a Lloegr fod tua 146,856 o bobl wedi mynd i gael triniaeth oherwydd anafiadau yn gysylltiedig â thrais yn y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2021, cynnydd o 27,745 yn 2020.
Roedd cynnydd difrifol yn effeithio ar bob grŵp oedran – ymhlith plant 0-10 oed 42%, ymhlith pobl ifanc 11-17 oed 20%, ymhlith oedolion ifanc 18-30 oed 29%, ymhlith y rhai 31-50 oed o 20%, ac ymhlith y rhai dros 50 oed o 16%.
Y rhai a oedd â'r risg uchaf o anaf cysylltiedig â thrais oedd gwrywod, roedd y lefelau risg hyn yn 3.38 fesul 1,000 o drigolion; roedd y lefelau risg, felly, dros ddwywaith yn uwch i wrywod nac i fenywod, a'r rheini rhwng 18 a 30 oed (6 fesul 1,000 o drigolion).
Roedd cyfraddau cyffredinol trais difrifol yn 2021 yn is nag yn y blynyddoedd cyn y pandemig, gostyngiad o 24% a 49% o gymharu â 2017 a 2011, er enghraifft.
Meddai’r Athro Shepherd: "Daeth asesiad y llywodraeth, yn 2019, o gyfraniadau iechyd y cyhoedd i atal trais, a lofnododd Sajid Javid pan oedd yn Ysgrifennydd Cartref, i'r casgliad, hyd yn oed pe bai dim ond 5% o bartneriaethau diogelwch cymunedol yn defnyddio data perthnasol Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys i lywio eu gwaith – y strategaeth brofedig a elwir yn Fodel Caerdydd – byddai’r arbedion dros 10 mlynedd bron yn £1bn.
"Nid yw trais difrifol yn beth anochel, mae modd ei atal."
Mae'r unfed adroddiad ar hugain blynyddol hwn ynghylch trais difrifol yng Nghymru, Lloegr – a'r Alban erbyn hyn – yn cael ei gynhyrchu gan y Grŵp Ymchwilio i Drais. Mae'n cynnwys data o'r Rhwydwaith Arolygu Trais Cenedlaethol, dan arweiniad yr Athro Vaseekaran Sivarajasingam o Brifysgol Caerdydd.