Arddangosfa Breaking the News yn agor
28 Ebrill 2022
Mae Uwch Ddarlithydd Prifysgol Caerdydd Dr David Dunkley Gyimah wedi cyfrannu ei arbenigedd am y cyfryngau ar gyfer arddangosfa newydd yn y Llyfrgell Brydeinig o'r enw Breaking the News.
Mae'r arddangosfa, a agorodd ar 22 Ebrill, yn dogfennu 500 mlynedd o ddarllediadau newyddion yn y DU, pŵer a dylanwad y cyfryngau ac yn gofyn beth sydd y tu ôl i'r penawdau mewn gwirionedd?
Defnyddir casgliad y Llyfrgell Brydeinig ei hun o daflenni llydan, blogiau a gwrthrychau wedi’u catalogio i gyfleu pum canrif o straeon sy’n diffinio’r cyfnod yn fanwl. O adrodd ar Jack the Ripper i'r Profumo Affair, ac o ddarllediadau o dân Tŵr Grenfell i'r rhyfel yn Syria.
Roedd Dr Dunkley Gyimah yn aelod o'r panel cynghori, a chyfrannodd ei wybodaeth arbenigol am newyddiaduraeth ryngwladol, amrywiaeth, arloesedd a newyddiaduraeth sinema i'r straeon a ddewisodd y panel ar gyfer yr arddangosfa.
Dywedodd Dr Dunkley Gyimah, "Mae gan newyddion y pŵer i lunio a difetha etholiadau. Troi pobl gyffredin yn sêr dros nos. Yna’n gwneud iddynt wynebu realiti bywyd bob dydd yn sydyn.
Cyfrannodd Dr Dunkley Gyimah hefyd bennod o'r enw Black Lives Matter: The fight for identity in the media, i'r llyfr sy'n cyd-fynd â'r arddangosfa. Ynddo mae'n dadlau ei bod yn amhosibl deall y mudiad Black Lives Matter a'i gynrychiolaeth yn y cyfryngau heb ddeall pŵer iaith, hanes yr hawliau sifil, y defnydd o sloganau wrth rymuso pobl Ddu, a'r lens y mae newyddion prif ffrwd yn gweithredu ynddi.
"Mae cyfrannu at y casgliad hwn wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae wedi bod yn anrhydedd cyfnewid barn gydag academyddion blaenllaw, gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau a thîm y llyfrgell dan arweiniad y prif guradur Luke Mckernan.
"Mae'r math hwn o ymchwil ymarferol yn adlewyrchu dull yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant o greu gweithiau effeithiol ac edrychaf ymlaen at adeiladu ar hyn yn ein hysgol."
Mae'r arddangosfa'n cael ei gynnal tan 21 Awst ac mae'r llyfr, sydd hefyd yn dwyn y teitl Breaking the News, wedi’i olygu gan Jackie Harrison a Luke McKernan a’i gyhoeddi gan wasg y Llyfrgell Brydeinig.