Y PowerPoint Gorau ym Mhrydain ar gyfer Tsieinëeg yn 2022
22 Ebrill 2022
Cyflwynwyd y wobr ‘Y PowerPoint Gorau’ i Ling He o Sefydliad Confucius Caerdydd yn rownd derfynol Pencampwriaeth Addysgu Mandarin y DU ar 27 Mawrth.
Cafodd y gystadleuaeth yn 2022 ei threfnu am y tro cyntaf gan Ganolfan Addysg Iaith a Chydweithredu (CLEC) y DU,a chafwyd 19 o enillwyr o'r pum rownd ranbarthol. Roedd Ling He wedi dod yn gyntaf ym Mhencampwriaeth Addysgu Mandarin y DU – Cymru ym mis Mawrth 2021, ac roedd un o gyn-diwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd, Linyan Tian, wedi dod yn ail.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar-lein, a gwnaeth pob un o’r cystadleuwyr gyflwyno 'micro-ddosbarth' Tsieinëeg am 15 munud cyn ateb cwestiynau byw gan y beirniaid. Rhoddwyd y wobr gyntaf i Yiwen Huang, un o gyn-diwtoriaid Sefydliad Confucius Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a phartner i’n Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina.
Dywedodd Fang Xiao, un o feirniaid y gystadleuaeth: “Dangosodd y ddau enillydd wersi Mandarin i ddechreuwyr a wnaeth argraff ar y beirniaid. Felly, roedd tiwtoriaid y Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina’n bendant yn fwy amlwg na phawb arall yn y gystadleuaeth.”
Mae CLEC yn sefydliad addysgol proffesiynol di-elw ar gyfer addysg Tsieinëeg ryngwladol. Mae'n gysylltiedig â'r Weinyddiaeth Addysg Tsieineaidd.