Ewch i’r prif gynnwys

Rhedeg sy'n gwneud pob gwahaniaeth

20 Ebrill 2022

Tîm ysgol yn curo’r targed yn rhan o #TeamCardiff yn Hanner Marathon Caerdydd

Fis diwethaf, gwnaeth #TeamCardiff redeg Hanner Marathon Caerdydd a chodi swm anhygoel o arian – £70,000 – ar gyfer ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth ac ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gwnaeth y tîm o fwy na 200 o staff, myfyrwyr, cynfyfyrwyr a ffrindiau Prifysgol Caerdydd roi eu hesgidiau rhedeg amdanynt a rhedeg yr 13.1 milltir, gan fynd heibio rhai o leoedd mwyaf eiconig y ddinas.

Ymhlith y bobl a redodd ar ran y Brifysgol roedd 15 aelod o staff a myfyrwyr o’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.

Dyma oedd y mwyaf o dimau ysgol y Brifysgol. Gyda’i gilydd, llwyddodd yr aelodau i godi £6,000, gan gynnwys Rhodd Cymorth, ar gyfer ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth ac ymchwil canser.

Yn rhedeg o amgylch y brifddinas ar ran yr ysgol yn y digwyddiad ym mis Mawrth roedd capten y tîm, Robert Meredith, ac Angharad Jones, Patrick Hassan, Ali Langner, yr Athro Michael Handford, Megan Leitch, Tom Fuller, Huw Williams, Ryan Plant, Panos Paris, Daisy Cleaver, Zoe Woolford-Lim, Megan Malthouse a phennaeth yr ysgol, yr Athro Martin Willis.

Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn sicrhau bod modd rhoi grantiau i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, sy'n eu helpu’n sylweddol i archwilio syniadau newydd a datgloi cyfleoedd ariannu yn y dyfodol.

Drwy gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr iechyd meddwl, niwrowyddoniaeth a chanser, mae codwyr arian #TeamCardiff yn sicrhau bod darganfyddiadau sy'n newid bywydau’n cael eu gwneud yn gynt er mwyn gwella sut mae amrywiaeth eang o gyflyrau’n cael eu hatal, eu diagnosio a’u trin.

Darganfyddwch ragor am redeg Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff ym mis Hydref.

Rhannu’r stori hon