Ysgogi newid at gludo nwyddau gydag allyriadau isel a dim allyriadau ar ffyrdd Colombia
19 Ebrill 2022
Yn ddiweddar dychwelodd academyddion yr Ysgol Busnes o ymweliad â Colombia fel rhan o brosiect GIRO ZERO.
Sefydlwyd prosiect GIRO ZERO yn 2021 yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd ac Universidad de Los Andes er mwyn llywio'r sector cludo nwyddau ar ffyrdd Colombia at strategaeth dim allyriadau.
Treuliodd yr Athro Vasco Sanchez Rodrigues, yr Athro Emrah Demir a Dr Wessam Abouarghoub ychydig o dan bythefnos yn Colombia, gan gwrdd â buddiolwyr prosiect GIRO ZERO a phartneriaid ymchwil, a chyflwyno mewn digwyddiadau yn Cartagena a Bogota.
Yn ystod yr ymweliad, cawsant gwrdd â buddiolwyr allweddol gan rannu a thrafod allbynnau cychwynnol y prosiect wrth i'r flwyddyn gyntaf dynnu at ei therfyn. Gyda phartner y prosiect Universidad de Los Andes yn trefnu, cawsant gwrdd hefyd â Colfecar, Cydffederasiwn Cwmnïau Logisteg a Thrafnidiaeth Colombia; ANDI, Cymdeithas Genedlaethol yr Entrepreneuriaid sy'n cynrychioli perchnogion cargo ledled y wlad, Adran Drafnidiaeth Genedlaethol Colombia, y Weinyddiaeth Drafnidiaeth a Seilwaith, a Chymdeithas perchnogion a gyrwyr lorïau bach.
Roedd yn ymweliad llwyddiannus, gydag ymwelwyr yr ysgol Busnes yn casglu adborth uniongyrchol gan y buddiolwyr a chynllunio blaenoriaethau'r prosiect wrth gychwyn ar ei ail flwyddyn.
"Mae gan y prosiect botensial anhygoel i greu mwy o effaith, ac un enghraifft o hynny yw bod y Weinyddiaeth Drafnidiaeth a Seilwaith wedi ymrwymo i fabwysiadu a defnyddio dangosfwrdd a ddatblygwyd gennym ni."
Fel un o'i brif allbynnau, mae'r prosiect wedi datblygu pecyn o ddangosfyrddau. Dywedodd Dr Wessam Abouarghoub, Darllenydd Logisteg a Rheoli Gweithrediadau, a phrif arbenigwr Giro Zero, sy'n arwain yr elfen honno o Giro Zero gyda'i arbenigedd mewn dadansoddeg data busnes, fod y pecyn cymorth a ddatblygwyd gan Giro Zero “yn gwneud sawl peth fel gallu delweddu dros 30 miliwn o deithiau lori ar draws Colombia i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n ysgogi allyriadau wrth gludo nwyddau ar ffyrdd mewn gwahanol fathau o lorïau, y mathau o gargo a llwythi a’r mathau o danwydd.
Yn ogystal â chyfarfod â buddiolwyr, rhoddodd staff yr Ysgol Busnes hefyd gyfres o gyflwyniadau yn Cartagena, gan gynnwys tiwtorialau ar yr offeryn efelychu allyriadau isel a seminar i gyflwyno canlyniad blwyddyn gyntaf y prosiect.
Dywedodd yr Athro Gordon Wilmsmeier o Universidad de Los Andes, arweinydd Giro Zero: "Roedd yn bwysig iawn fod Prifysgol Caerdydd fel partner yn ymweld i gael profiad go iawn o Colombia a'i hamgylchedd ac i ymgysylltu â'r sector, a hefyd er mwyn i ni brofi'r adborth a'r ymatebion i'r gwaith rydym ni wedi'i wneud gyda'n gilydd.
"Yn hynny o beth, mae ein cydweithio wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydym ni wedi cyflawni nifer o ganlyniadau pendant fel y gwelir yn y dangosfwrdd, yr efelychydd ac adroddiadau eraill. Mae eu cyflwyno gyda'i gilydd i'r rhanddeiliad yn cyfrannu at ddatblygu'r rhwydwaith ymhellach."
Dywedodd Dr Juan Pablo Bocarejo, Athro Cysylltiol yn Universidad de Los Andes: "Mae ein partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd wedi cyfrannu at greu offer technegol defnyddiol i lunio Llwybr at Ddim Allyriadau wrth gludo nwyddau yn Colombia. Mae ein cydweithwyr yn yr Ysgol Busnes wedi cyfrannu dealltwriaeth a phrofiad allweddol o'r DU i helpu ein prosiect GIRO ZERO."