Dulliau Ymchwil SAGE – cyhoeddiad newydd
21 Ebrill 2022
Mae astudiaeth achos a ysgrifennwyd gan Dorottya Cserző wedi'i chyhoeddi, a hynny’n rhan o’r gyfres Dulliau Ymchwil SAGE: Gwneud Ymchwil Ar-lein.
Nod y gyfres yw dangos sut mae ymchwil yn gweithio, a hynny drwy ddefnyddio enghreifftiau go iawn. Mae'r astudiaeth achos hon wedi'i hanelu at israddedigion uwch ac yn cael ei hargymell i ymchwilwyr newydd sy'n ystyried casglu data drwy grwpiau ffocws ar-lein.
Mae'r astudiaeth achos yn trafod gwaith gwerthuso’r rhaglen hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru – prosiect sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn Uned Caerdydd ar gyfer Ymchwil ac Arfarnu mewn Addysg Feddygol a Deintyddol (CUREMeDE). Yn wreiddiol, y bwriad oedd cynnal grwpiau ffocws wyneb-yn-wyneb gyda meddygon teulu dan hyfforddiant er mwyn archwilio eu profiadau o'r rhaglen. Roedd angen addasu’n gyflym ar gyfer casglu data o bell oherwydd y cyfyngiadau a gyflwynwyd mewn ymateb i bandemig COVID-19. Penderfynodd y tîm ymchwil ddefnyddio technoleg fideogynadledda i gynnal y grwpiau ffocws a lleihau maint y grŵp targed o 8-12 o gyfranogwyr i uchafswm o chwe chyfranogwr fesul grŵp.
Roedd gan y tîm ymchwil brofiad o gynnal grwpiau ffocws wyneb-yn-wyneb ond nid o bell ar ddechrau'r prosiect. Mae'r astudiaeth achos hon yn trafod y prif heriau y gwnaethom eu hwynebu ac yn rhoi cyngor i ymchwilwyr sy'n newydd i gynnal grwpiau ffocws drwy gyfrwng fideo. Mae Dr. Cserző yn archwilio rôl porthgeidwaid a strwythur trafodaeth y grŵp ffocws ac yn tynnu sylw at y materion moesegol, cyfreithiol ac ymarferol y mae angen eu hystyried wrth ddewis offer priodol (h.y. platfformau fideogynadledda, offer cofnodi, offer trawsgrifio a storfeydd data ar-lein). Yn olaf, mae'n ystyried y problemau annisgwyl a gododd yn y cylch casglu data cyntaf (Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021) ac yn nodi strategaethau ar gyfer sicrhau bod y dull o wneud ymchwil yn hyblyg.