Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â phrosiect ynni adnewyddadwy alltraeth
13 Ebrill 2022
Bydd y Brifysgol yn cymryd rhan yng Nghanolfan Ragoriaeth Cymru ORE Catapult i gefnogi twf sector ynni adnewyddadwy alltraeth Cymru.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno'n ffurfiol â Chanolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE) cwmni Offshore Renewable Energy (ORE) Catapult yn Noc Penfro, i helpu i ddatblygu sectorau ynni adnewyddadwy morol ac alltraeth Cymru.
Mae MEECE, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yn rhan o Brosiect Morol Doc Penfro gwerth £60 miliwn.
Cafodd ei chynllunio i ysbarduno ymchwil ac i arloesi, profi ac arddangos ym maes technoleg, a hynny i gyflymu’r broses o fasnacheiddio'r sectorau gwynt tonnau, llanw ac alltraeth drwy leihau cost ynni, gwella effeithlonrwydd a dibynadwyedd, a chefnogi twf cadwyn gyflenwi Cymru.
Mae gan Brifysgol Caerdydd gryn arbenigedd ym maes ynni morol a fydd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth drwy gydol y prosiect.
Mae Grŵp Ymchwil Ynni Morol Caerdydd (CMERG) Prifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Ymchwil Hydroamgylcheddol (HRC) wedi profi rhai o'r modelau mwyaf datblygedig ar raddfa o dyrbinau ffrwd lanw, gan arwain at well dealltwriaeth o sut mae llanwau deinamig yn dylanwadu ar berfformiad a dibynadwyedd tyrbinau.
Mae ganddyn nhw hefyd arbenigedd ym maes modelu dynameg hylif hydroamgylcheddol a chyfrifiadurol i wella dyluniad gwahanol ddyfeisiau ac asesu eu heffeithiau pellgyrhaeddol yn ogystal â gweithredu sawl tanc cafn a basn llanw.
Mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Peirianneg wedi datblygu dulliau o'r radd flaenaf i fanteisio i’r eithaf ar weithredu cynlluniau amrediad llanw, gan gynnwys morgloddiau llanw a morlynnoedd, yn ogystal ag asesu eu heffeithiau ar yr amgylchedd cyfagos.
Mae Prifysgol Abertawe, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Bangor hefyd wedi ymuno â'r Ganolfan a byddan nhw’n cefnogi prosiectau arloesi drwy law ORE Catapult, a bydd pob un yn cyfrannu ei galluoedd unigryw.
Gan mai hi yw’r sefydliad arweiniol, bydd Prifysgol Abertawe yn cydlynu gweithgarwch partneriaid y brifysgol a bydd yn gweithio'n agos gyda sefydliadau gan gynnwys Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg y DU (UK EPSRC), Supergen ORE, Ocean Energy Europe a chyrff cydgysylltu eraill i sicrhau bod y prosiectau'n cyd-fynd â gweithgareddau eraill a ariennir.
Dyma a ddywedodd yr Athro Reza Ahmadian, Athro Peirianneg Dŵr a'r Amgylchedd a Chyfarwyddwr Rhyngwladol Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd: "Yng Nghymru, mae gennym adnoddau eithriadol at ddibenion ynni adnewyddadwy morol. Mae cynnig cynllun amrediad llanw mwyaf arwyddocaol y byd yn gysylltiedig â Chymru ac mae prosiectau megis MEECE yn rhoi cyfle unigryw inni gefnogi ymchwil yn ogystal ag arloesi a datblygu ynni adnewyddadwy morol yng Nghymru."
Dyma a ddywedodd Dr Stephen Wyatt, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesedd ORE Catapult: "Bydd cael ein partneriaid yn y prifysgolion yn gwella'n ddirfawr yr hyn y gall MEECE ei gynnig i sectorau ynni gwynt, tonnau a'r llanw ar y môr yng Nghymru. Byddwn ni’n gallu manteisio ar eu cyfleusterau a'u harbenigedd unigryw sy'n arwain y byd i gyd-fynd â’n harbenigedd ein hun yn ogystal â sbarduno’r gwaith o arloesi ym maes technoleg, gan gefnogi busnesau presennol a chwmnïau newydd sydd eisiau sefydlu busnes yn y rhanbarth i fanteisio ar y cyfleoedd economaidd enfawr sydd ar gael."
Bydd y prifysgolion yn cefnogi pedwar prosiect presennol a arweinir gan MEECE, gan gynnwys dylunio a phrofi elfennau aerodeinamig ychwanegol a elwir yn generaduron fortecs, i wella cynnyrch ynni tyrbinau gwynt yn ogystal â chefnogi Cwmni Bwyd Traeth Sir Benfro (PBFC) i gynllunio a phrofi system tyfu gwymon syml a graddadwy ar gyfer cyd-destunau alltraeth at ddibenion gwrthbwyso carbon.
Bydd cymorth hefyd yn cael ei roi i Applied Petroleum Technology (APT) wrth ddatblygu offeryn mapio cyfyngiadau yn y cwmwl sy'n hawdd ei ddefnyddio er mwyn symleiddio'r gwaith o ddatblygu a chynllunio ffermydd gwynt ar y môr, ac i Sea Watch Foundation (SWF) wrth ddatblygu ap symudol i'r cyhoedd ei ddefnyddio i gofrestru achosion o weld morfilod. Bydd modd defnyddio’r rhain i gynorthwyo datblygwyr prosiectau yn ystod y broses gydsynio yn achos prosiectau ynni adnewyddadwy alltraeth.