Cylchlythyr Chwarter 1 2022
31 Mawrth 2022
Archwiliad allanol ISO 9001:2015 ar gyfer CBS yn llwyddiannus
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod, drwy gwblhau archwiliad gwyliadwriaeth blynyddol BSI o'n cyfleuster ym mis Mawrth 2022, yn llwyddiannus, wedi cynnal ein hardystiad ISO 9001. Oherwydd y pandemig, hwn oedd ein harchwiliad wyneb yn wyneb cyntaf ers mis Chwefror 2020. Mae hyn yn golygu bod ein system rheoli ansawdd yn parhau i ddangos ei gallu i gynnig gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid a rheoliadau’n gyson. Ni yw’r unig Gyfleuster Aml-graidd yn y DU sydd â’r achrediad hwn, sy’n cefnogi cwsmeriaid ym Mhrifysgol Caerdydd a’r tu hwnt iddi.
Efallai eich bod yn gydweithiwr o Brifysgol Caerdydd sy’n ceisio cyngor ynghylch cydymffurfio â’r safon hon? Neu efallai eich bod yn fusnes sy’n ymddiddori mewn gwaith contract y gallwn ei wneud i chi yn unol â’r safon hon?
Mae croeso i chi gysylltu â ni i gael mwy o wybodaeth.
Amlygu TeloNostiX... cwmni deillio o Brifysgol Caerdydd!
Wedi'i leoli o fewn y Gwasanaethau Biotechnoleg Canolog ers 2017, mae TeloNostiX yn gwmni diagnosteg in vitro, sy'n deillio o Brifysgol Caerdydd, sy'n darparu dadansoddiad cydraniad uchel o hydoedd telomerau ar gyfer ymchwil fasnachol ac academaidd, yn ogystal ag ar gyfer cymwysiadau clinigol. Maent yn darparu nifer o wasanaethau gan gynnwys prognosis cleifion canser a rhagfynegiad o ymateb i therapi gwrthganser, dewis cleifion ar gyfer therapïau cellog a chynorthwyo i weithgynhyrchu therapïau cellog. Yn fwy diweddar, mae eu technolegau’n cael eu defnyddio i wneud diagnosis o gasgliad o gyflyrau genetig prin a gwanychol o’r enw telomeropathïau.
Mae TeloNostiX yn defnyddio technolegau dau blatfform a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer dadansoddiad cydraniad uchel o hydoedd telomerau yn seiliedig ar asesiad gwaelodol Dadansoddiad Hyd Telomere Sengl (STELA):
- Moleciwl sengl STELA (SM-STELA) – yn darparu dadansoddiad cydraniad uchel o delomerau, sydd angen dim ond 3,000 o gelloedd. Gellir defnyddio SM-STELA ar y cyd â didoli celloedd cyflym ar gyfer prosiectau ymchwil pwrpasol. Defnyddiwyd hwn i archwilio deinameg telomerau a photensial atgynhyrchu gwahanol fathau o gelloedd gan gynnwys is-setiau celloedd T prin, celloedd NK, lymffocytau ymdreiddio tiwmor a chynhyrchion celloedd CAR-T.
- STELA Trwybwn Uchel (HT-STELA) - sy'n gofyn am 50,000 o gelloedd, gyda gwall mesur isel (CV mewn-assay < 2%, CV rhyng-assay < 3%), mae HT-STELA yn ddelfrydol ar gyfer dadansoddi carfannau mawr ac a ddefnyddir i ddangos bod hyd telomerau celloedd canser yn brognostig ac yn rhagfynegi ymateb i driniaeth mewn amrywiaeth o fathau o diwmor. At hynny, mae HT-STELA wedi'i sefydlu fel gwasanaeth labordy clinigol gyda system rheoli ansawdd lawn ac mae hyn yn cael ei ddefnyddio gan glinigwyr y GIG ar gyfer diagnosteg sy'n seiliedig ar delomerau.
Mae'r gallu i ddadansoddi niferoedd bach o gelloedd â chydraniad uchel, ond hefyd i reoli niferoedd mawr iawn o samplau yn gyflym yn golygu bod TeloNostiX mewn sefyllfa ddelfrydol i'ch cynorthwyo gyda'ch ymchwil.
Yn greiddiol iddo, mae TeloNostiX yn gwmni sy'n canolbwyntio ar wyddoniaeth ac sy'n cael ei yrru gan ddata. Maent yn ymfalchïo yn eu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, wedi'i ategu gan ymrwymiad gwyddonol a phroffesiynol i'w cleientiaid, sy'n sicrhau eu bod yn darparu canlyniadau dibynadwy a chywir.
Cysylltwch â TeloNostiX os hoffech ragor o wybodaeth am sut y gallent eich cynorthwyo gyda dadansoddiad o hydoedd telomerau ar gyfer eich prosiect ymchwil. Ewch i wefan TeloNostiX a dilynwch nhw ar Twitter a LinkedIn.
Technolegau newydd y Gwasanaethau Biotechnoleg Canoleg
Rydym yn gyffrous o gael dau fath newydd o dechnoleg yn CBS. Darllenwch ragor isod, cysylltwch â ni a dewch i siarad â ni i ddysgu rhagor!
Cytometreg llif dimensiwn uchel
Cliciwch yma i ddysgu am ein Dadansoddwr Celloedd A3 FACSymphony™ gan gwmni BD, sydd bellach wedi’i osod ac yn barod i'w ddefnyddio. Mae'r teclyn pwerus hwn yn gallu mesur, ar draws pum laser, 30 paramedr, sy’n galluogi’r defnydd o lifynnau newydd â nodweddion disgleirdeb a gorlif gwell.
Beth am wylio'r fideo hwn o'r enw 'Learnings and Advancements in High-Parameter Flow Cytometry' i ddysgu rhagor?
Dadansoddiad aml-elfen o hyd at 800 o dargedau RNA neu DNA
Cliciwch yma i ddysgu am ein System Dadansoddi nCounter™ MAX, nanoString, a’r potensial sydd ganddo i alluogi eich ymchwil. Mae'r dechnoleg hon yn eich galluogi i archwilio llwybrau lluosog, yn ddigidol, o un tiwb drwy broses lle nad oes angen echdynnu elfennau unigol. Gallwch gyflymu eich ymchwil trwy dreulio llai o amser ar baratoi samplau, a gallwch greu’ch dadansoddiad data eich hun trwy ddefnyddio’r Feddalwedd nSolver™ Analysisa gynhwysir.
Diweddariad ynghylch hyfforddiant
Byddwn yn parhau i drefnu cyrsiau, rhai yn rhad ac am ddim a rhai ar sail adennill costau, i gefnogi ymchwilwyr gymaint ag y gallwn. Cysylltwch â ni i, drafod eich anghenion hyfforddi, a chynnig awgrymiadau, a chadwch olwg cyson ar ein gwefana dilynwch ni ar Twitter i gael manylion ynghylch digwyddiadau sydd ar y gweill.