Gwobr Caerdydd am fod yn ‘arloeswyr yn eu maes’
11 Ebrill 2022
Mae'r Tîm Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE) wedi ennill gwobr Pencampwr yr Amgylchedd yng ngwobrau Dewi Sant eleni.
Cafodd y grŵp, sydd wedi'i leoli yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ei gydnabod am ei waith yn helpu i leihau’n sylweddol allyriadau carbon mewn tai, wrth wella amodau a lleihau biliau ynni.
Gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill, mae tîm LCBE wedi dangos ei bod yn bosibl cyfuno atebion sydd ar gael i'r farchnad i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau wrth wella'r amgylchedd adeiledig ac ysgogi'r economi.
Mae enghreifftiau o waith y tîm yn cynnwys dylunio ac adeiladu'r tŷ SOLCER fforddiadwy sy'n gadarnhaol ac effeithlon o ran ynni. Ysbrydolodd hyn gynllun grant gwerth £10 miliwn gan y llywodraeth i adeiladu tai fforddiadwy carbon isel newydd ledled Cymru.
Yn gyffredinol, ers hynny mae'r rhaglen hon wedi rhoi £91 miliwn o gyllid tuag at 50 o brosiectau sy'n cynnwys adeiladu tua 1,400 o gartrefi ledled Cymru, nifer ohonynt wedi tynnu ar ddefnyddio’r datblygiadau arloesol ac egwyddorion a ddatblygwyd yn y tŷ SOLCER.
Mae’r Tîm LCBE hefyd wedi darparu data hanfodol ar gyfer adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar sut i ddatgarboneiddio tai presennol yn fwy effeithlon.
Dylanwadodd y gwaith hwn ar y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) lle mae mesurau carbon isel yn cael eu gosod mewn hyd at 1,700 o gartrefi, gan gynnwys pympiau gwres, systemau ynni deallus a phaneli solar.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Jo Patterson, o Ysgol Pensaernïaeth Cymru: "Rydym wrth ein bodd o fod wedi ennill y wobr hon a chael ein cydnabod ymhlith yr holl enillwyr anhygoel ac ysbrydoledig eleni.
"Rydym yn hynod falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni dros y 10 mlynedd diwethaf. Rydym wedi profi bod tai fforddiadwy carbon isel yn bosibl ac yn hanfodol os ydym am gyrraedd ein targedau sero net dros y blynyddoedd nesaf.
"Ar ben hynny, mae ein gwaith wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar fywydau bob dydd llawer o bobl sy'n byw ledled Cymru, er enghraifft, gan greu arbedion o hyd at £1,000 y flwyddyn ar filiau ynni mewn cartrefi."
Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Mae'n wych gallu dyfarnu'r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol yng Ngwobrau Dewi Sant eleni wyneb yn wyneb unwaith eto. Maent yn grŵp ysbrydoledig o bobl sy'n haeddu cael eu llongyfarch ar eu cyfraniad i fywyd Cymru.
"Mae llawer wedi gwasanaethu eraill yn ddewr ac yn anhunanol, mae rhai yn arloeswyr yn eu meysydd ac mae eraill wedi gweithio'n ddiflino i ddiogelu'r amgylchedd. Rydym yn ffodus o'u cael i gyd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru."
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru. Caiff 10 gwobr eu dyfarnu pob blwyddyn mewn categorïau sy’n amrywio o ddewrder ac ysbryd y gymuned, i arloesedd, gwyddoniaeth a thechnoleg.
Caiff y teilyngwyr yn y rownd derfynol eu hethol gan aelodau’r cyhoedd, ond caiff yr enillwyr eu dewis gan Brif Weinidog Cymru a'i gynghorwyr.
Mae prosiect LCBE yn rhan o Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, a arweinir gan Brifysgol Abertawe a'i hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac EPSRC.