Persians: Cyhoeddi hanes newydd diffiniol o archbwer cyntaf y byd
7 Ebrill 2022
Llyfr diweddaraf gan arbenigwr hanes hynafol o fri rhyngwladol sy'n manylu ar y rhan fwyaf o'r ymerodraethau hynafol
Mae gwaith mawr newydd yn manylu ar archbŵer cyntaf y byd a oedd yn ymestyn o Libya i Stepdiroedd Asia, ac o Ethiopia i Bacistan, yn cyrraedd y silffoedd llyfrau.
Mae’r Athro Hanes yr Henfyd Lloyd Llewellyn-Jones wedi ymchwilio ac ysgrifennu’r prif waith PERSIANS: The Age of the Great Kings, a gyhoeddodd Wildfire Books (Llundain) a Basic Books (Efrog Newydd).
Wrth galon yr ymerodraeth Persiaidd enwog roedd palas-ddinas chwedlonol Persepolis lle bu Cyrus Fawr, Darius a Xerxes yn cynnal y llys mewn mawredd heb ei ail. O'r fan hon, gwnaeth y brenhinoedd Achaemenid a'u hetifeddion basio cyfreithiau, codi byddinoedd, a llywodraethu eu hymerodraeth amlddiwylliannol o amrywiaeth enfawr.
Ond roedd yr Achaemenids hefyd yn un o deuluoedd camweithredol mawr hanes, gyda brodyr yn brwydro am rym, eunuchiaid a llyswyr yn cystadlu am ddylanwad a bri, a gwragedd a gordderchadon yn cynllwynio am eu hepil.
Yn ei hanes newydd diffiniol o Ymerodraeth Persia, mae'r arbenigwr o’r Persiaid hynafol yn holi'n ddeheuig y Brenhinoedd Mawr a deyrnasai dros Ymerodraeth fwyaf yr henfyd, gan archwilio ffynonellau gwreiddiol Achaemenid, o gelf ac arysgrifau i ddarganfyddiadau archeolegol diweddar yn Iran heddiw i greu gwir hanes, yn cwestiynu hanesion Groegaidd clasurol enwog.
Mae’r awdur a’r hanesydd yr Athro Llewellyn-Jones yn esbonio:
“Yn draddodiadol mae ein dealltwriaeth o Ymerodraeth Persia wedi dod o hanes awduron Groegaidd fel Herodotus – ac o’r herwydd, dros ganrifoedd lawer, mae ein persbectif wedi’i ystumio gan agendâu gwleidyddol a diwylliannol hynafol.
“Fy agenda i wrth ysgrifennu’r hanes newydd hwn yw defnyddio, cyn belled ag y bo modd, ffynonellau hynafol Iran. Dyma’r Fersiwn Persaidd o hanes yr henfyd ac mae’n gwrthgyferbynnu’n llwyr â’r hen fyd fel y mae wedi’i hidlo trwy ffynonellau Groegaidd a Rhufeinig.”
Cyfarwyddwr Rhaglen Iran Hynafol ar gyfer y Sefydliad Astudiaethau Persaidd Prydeinig a golygydd cyfres Gwasg Prifysgol Caeredin (Edinburgh Studies in Ancient Persia), mae’r Athro Hanes yr Henfyd Lloyd Llewellyn-Jones yn cyfrannu’n rheolaidd at gyhoeddiadau hanes o bwys (History Today, World History a Chylchgrawn Hanes y BBC). Mae'r gwaith a ddarlledir yn cynnwys ymddangosiadau ar gyfres Art of Persia ar BBC Four, In Our Time (Persepolis) BBC Radio Four ac ar gyfer cyfresi podlediadau mawr gan gynnwys Persia's Hidden History (History Hit) a Persepolis Jewel of Persia (Apple).
Mae teitlau llyfrau hefyd yn cynnwys Designs on the past: how Hollywood created the Ancient World a’r King and court in Ancient Persia 559-331 BCE (Caeredin), Aphrodite’s tortoise: the veiled woman of Ancient Greece a Women’s dress in the Ancient Greek world (Gwasg Clasurol o Gymru) a chydaSister-Queens in the high Hellenistic period: Kleopatra Thea and Kleopatra III (gyda McAuley), The culture of animals in antiquity. A sourcebook with commentaries (gyda Cleland and Davies). Dress in Ancient Greece and Rome A-Z a Ctesias’ History of Persia: tales of the Orient (gyda Robson).
Mae’r Athro Llewellyn-Jones yn siarad nifer o wyliau llenyddol fel rhan o dymor lansio The Persians, gan ddechrau yn HistFest yn y Llyfrgell Brydeinig ochr yn ochr â Shaparak Khorsandi a Victoria Princewill (9 Ebrill 2022).
Cyhoeddir y llyfr mewn amrywiaeth o ieithoedd, gan gynnwys Sbaeneg, Portiwgaleg, Iseldireg, Tsieinëeg a Phwyleg.