Ymgysylltu â phobl ifanc i ddysgu am gyfleoedd ym maes STEM
7 Ebrill 2022
Mae nifer o ddigwyddiadau allgymorth wedi bod yn cael eu cynnal yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf. Nod y digwyddiadau hyn yw denu rhagor o bobl ifanc i bynciau gwyddoniaeth a mathemategol megis cyfrifiadureg.
Yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth, yn rhan o brosiect Gaeaf Lles, bu llysgenhadon STEM wrth stondin yn un o hen siopau GAP yn y brif ganolfan siopa yng nghanol Caerdydd. Roedden nhw yno i ddangos micro:bits a thechnoleg raspberry pi i aelodau'r cyhoedd ac ateb cwestiynau am wyddoniaeth, mathemateg a thechnoleg. Defnyddion nhw’r digwyddiad hefyd i hyrwyddo'r gystadleuaeth Gêm Codau a gynhaliwyd gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, bu staff yr Ysgol yn y prif gyntedd gyda byrbrydau ac anrhegion bach. Y nod oedd peri i fyfyrwyr, staff a phobl a oedd yn cerdded heibio i gymryd eiliad i ysgrifennu cyngor neu negeseuon cadarnhaol ar gyfer rheiny sy'n nodi eu bod yn fenywod ac a hoffai hwyrach astudio neu ddatblygu gyrfa sy'n seiliedig ar STEM. Wedyn, gwnaethon nhw greu wal o negeseuon sy’n cefnogi menywod ym maes STEM.
Cymerodd 90 o ferched o dair ysgol uwchradd leol wahanol (St Richard Gwyn, Ysgol Uwchradd Cathays, ac Ysgol Gymunedol Tonyrefail) ran yn Girls Into STEM, y trydydd digwyddiad, a drefnwyd mewn partneriaeth â Chynllun Addysg Peirianneg Cymru. Ymwelodd y merched y brifysgol ac adeilad newydd y Brifysgol, Abacws, yn ystod y diwrnod i gymryd rhan mewn rhaglen o weithgareddau. Cynhaliodd nifer o'n staff darlithio sesiwn a barodd am awr, gan ateb cwestiynau'r merched. Wedyn, cymerodd y merched ran mewn tri gweithdy dan arweiniad ein swyddogion cyflwyno a chawson nhw eu cefnogi gan lysgenhadon STEM sy’n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd y pynciau'n cynnwys seiberddiogelwch, defnyddio Micro:Bits a gweithdy tasgu syniadau am feddwl yn gyfrifiadurol, a’r cyfan gyda'r bwriad o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwragedd Cyfrifiadureg.
Rydyn ni’n cynllunio cyfres arall o ddigwyddiadau yn y dyfodol agos gan gynnwys y dangosiad cyntaf o Minecraft, rownd derfynol Gêm Codau, yn ogystal â'n darpariaeth arferol i’r ysgolion, clwb codau ar-lein, a phrosiect Un Byd Un Dechnoleg sydd yn creu cysylltiadau ar hyn o bryd rhwng ysgol yn Abertawe ag ysgol yn Nhwrci.