Delwedd hardd o uwchnofa yw delwedd ESO y mis
6 Ebrill 2022
Mae Dr Cosimo Inserra, darlithydd ac ymchwilydd yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, sef Prif Ymchwilydd y tîm ar yr arolwg ePESSTO+, wedi nodi nifer o ffrwydradau serol, gan gynnwys y ddelwedd hon o uwchnofa math 2. Mae Arsyllfa Ddeheuol Ewrop (ESO) wedi dewis y ddelwedd yn ddelwedd y mis.
Mae uwchnofa math II yn digwydd pan fydd seren enfawr yn cyrraedd diwedd ei hoes. Gallant achosi i'r seren fod mor ddisglair fel ei bod yn disgleirio'n fwy llachar na'r alaeth y bu hi’n rhan ohoni. Mae hyn yn caniatáu i ymchwilwyr arsylwi'r sêr hyn am gyfnodau o fisoedd, neu weithiau flynyddoedd. Mae Supernovae yn diddori seryddwyr gan y gall y metelau trwm y maent yn eu cynhyrchu ddod yn rhan o genedlaethau newydd o sêr, y planedau o'u cwmpas a'r bywyd a allai fodoli ar y planedau hynny.
Mae'r ddelwedd ar y chwith yn dangos y Cartwheel Galaxy cyn i'r uwchnofa ddigwydd, ac mae’r ddelwedd ar y dde yn dangos yr uwchnofa.
Mae'r arolwg ePESSTO+ wedi'i gynllunio i astudio gwrthrychau sydd yn awyr y nos am gyfnodau byr iawn yn unig, fel yr uwchnofa hon. Cafodd y ddelwedd ei thynnu gyda theclynnau yn arsyllfa La Silla ESO yn Chile.