Mae partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Normal Beijing wedi arwain at y garfan gyntaf o raddedigion sydd wedi ennill gradd ddeuol
5 Ebrill 2022
Mae graddedigion cyntaf coleg ar y cyd Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Normal Beijing (BNU) wedi bod yn sôn am eu balchder.
Bydd myfyrwyr ar y cwrs gradd ddeuol BA pedair blynedd mewn Tsieinëeg Modern yn cwblhau'r flwyddyn gyntaf a'r flwyddyn olaf yng Nghymru, a'r ail a'r drydedd flwyddyn yn Tsieina, a cheir y cyfle i gwblhau interniaeth yn ystod y cyfnod hwn.
Ymdrinnir ag ystod o fodiwlau ar y rhaglen a ddatblygwyd ar y cyd. Mae’n dyfarnu dwy radd ar y diwedd, ac mae’r pynciau'n canolbwyntio ar ddatblygu rhuglder mewn Tsieinëeg yn ogystal â nifer o agweddau ar ddiwylliant a hanes Tsieina.
Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd y llynedd, graddiodd y garfan gyntaf o Brifysgol Normal Beijing yn gynharach eleni.
Dywedodd Ola Wielga, 24, o Olsztyn yng Ngwlad Pwyl sydd bellach yn byw yn Manceinion, fod y profiad o astudio Tsieinëeg yn y ddau sefydliad wedi bod o fudd mawr iddi hi.
Dyma a ddywedodd: "Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn cynnig blwyddyn dramor, ond mae rhywbeth unigryw am astudio dramor pan fyddwch chi’n fyfyriwr cyfnewid, heb sôn am weithio tuag at radd yno. Rwy'n credu bod y profiad yn rhoi math gwahanol o ymdrwytho yn y diwylliant a'r iaith, sy'n beth pwysig pan fyddwch chi’n astudio ieithoedd.
"Roedd dod i adnabod pobl newydd, gweld lleoedd anhygoel, megis ymweld â Mongolia Fewnol neu Xi'an, cael bwyd lleol bob dydd, sef rhywbeth rwy’n ei golli'n fawr o hyd, a dysgu'n gyffredinol am ddiwylliant Tsieineaidd yn hynod o ddiddorol.
"Mae’n mynd i ymddangos yn ystrydebol, ond rwy wedi dysgu llawer amdano i fy hun yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn. Roedd llawer o heriau y bu'n rhaid inni eu hwynebu, megis Covid-19, ond wrth edrych yn ôl, mae'n teimlo fel camp enfawr. Dydw i ddim yn siŵr eto ble bydda i ymhen ychydig o flynyddoedd, ond rwy'n teimlo bod dewis astudio Tsieinëeg yn y DU ac yn Beijing yn rhywbeth sydd wedi newid fy mywyd heb os nac oni bai."
Cytunodd Louise Sheerin, 23, o Doncaster: "Roedd y penderfyniad i ddewis y rhaglen Tsieinëeg Modern ym Mhrifysgol Caerdydd yn un hawdd i’w wneud ar ôl darganfod bod y cwrs yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr astudio yn Tsieina am ddwy flynedd. Ni fu ffordd well o ymdrwytho yn iaith a diwylliant Tsieina na byw ac astudio yn Tsieina ei hun am gyfnod mor estynedig.
"Roedd byw ac astudio yn Beijing am ddwy flynedd yn arwain at gyfleoedd gwych a diddiwedd. Dinas ryngwladol brysur yw Beijing. Roedd y llety ar y campws yn gartref i fyfyrwyr rhyngwladol o bob cwr o'r byd, ond roedd hefyd yn hawdd cwrdd â myfyrwyr Tsieineaidd lleol ac ymdrochi yn niwylliant prifysgol Tsieineaidd.
"Er nad yw Beijing byth yn brin o leoedd i'w darganfod, mae hefyd yn lle gwych i’r rheiny sy'n dymuno darganfod rhannau eraill o Tsieina ac Asia. Roedd teithio o amgylch Tsieina yn rhad ac yn caniatáu imi deimlo'n fwyfwy hyderus yn fy ngallu ieithyddol. Trefnodd Prifysgol Normal Beijing daith hyd yn oed i Xi'an ar gyfer holl fyfyrwyr Tsieinëeg Modern Prifysgol Caerdydd.
"Roeddwn i'n nerfus i ddechrau i ymrwymo i raglen a oedd yn cynnwys dwy flynedd mewn gwlad mor bell oddi cartref sydd â diwylliant a oedd mor newydd imi, ond roedd fy mhrofiadau yn rhai amhrisiadwy."
Dyma a ddywedodd arweinydd y cwrs, Dr Xuan Wang, Deon Coleg Tsieineaidd BNU-Caerdydd: "Rwy'n hynod falch o'n carfan gyntaf o fyfyrwyr sydd wedi ennill dwy radd a chyfoeth o brofiad yn byw ac yn astudio yn y ddwy wlad. Mae ymwneud â dwy system addysgol a diwylliannol wahanol iawn i greu'r rhaglen radd lwyddiannus hon wedi bod yn gymhleth iawn, yn enwedig oherwydd i COVID-19 gymhlethu’r trefniadau.
"Mae’r hyn y mae ein myfyrwyr wedi’i gyflawni yn dangos eu hymrwymiad ond ar ben hynny, mae’n dangos ymroddiad aelodau’r staff sydd wedi eu cefnogi. Mae hefyd yn dangos cryfder y bartneriaeth strategol rhwng Prifysgol Caerdydd a'r BNU, sydd wedi gallu wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen."