Mae cynfyfyriwr Llwybr at y Gwyddorau Cymdeithasol wedi dychwelyd fel tiwtor
5 Ebrill 2022
Cwblhaodd Sikiya Adekanye y Llwybr at y Gwyddorau Cymdeithasol a'i harweiniodd at astudiaethau gradd. Mae hi nawr yn dychwelyd i Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE) yn diwtor i helpu eraill i gyflawni eu huchelgeisiau dysgu.
Cafodd Sikiya ei gradd meistr mewn Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yn 2021 o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd ac mae bellach wedi dechrau PhD mewn Troseddeg. Mae hi'n rhannu ei stori gyda ni yma:
"Dychwelais i astudio academaidd ar ôl treulio blynyddoedd yn gofalu am fy nheulu. Fe'm cyflwynwyd i'r llwybr ar ddiwedd cwrs annibynnol o fewn CPE o'r enw Women into Management (Merched mewn Rheolaeth). Gwnes i ganolbwyntio mwy ar bynciau gwyddoniaeth yn yr ysgol, felly doedd gen i ddim profiad o wyddorau cymdeithasol ac i ddweud y gwir, roedd yn eithaf dieithr ac anodd i mi ar y dechrau.
“Roedd y tiwtoriaid yn galonogol iawn ac fe wnaeth y cyflwyniad ysgafn i’r pwnc ennyn fy hyder wrth ddatblygu sgiliau gwyddorau cymdeithasol. Fe'm hysbrydolwyd gan y myfyrwyr PhD gwadd a ddywedodd wrthym am eu teithiau dysgu eu hunain a'u hymchwil gyfredol. Erbyn diwedd y cwrs llwybr, roeddwn yn chwilfrydig iawn am y pwnc.
“Gyda’r mentora a’r grwpiau cefnogi cymheiriaid, llwyddais i ymgartrefu yn fy mlwyddyn gyntaf o astudiaethau gradd ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe wnes i ffrindiau a datblygodd fy niddordeb mewn troseddeg. Cwblheais fy ngradd ac roeddwn yn ffodus i gael Ysgoloriaeth MSc/PhD a ariannwyd gan ESRC o fewn Troseddeg.
"Rwyf bellach yn ail flwyddyn fy rhaglen PhD ran-amser ac yn falch iawn o fod yn addysgu ar ddau fodiwl llwybr o fewn CPE. Rwy’n teimlo’n fraint fy mod wedi dod yn ôl i’r adran lle cychwynnodd fy siwrnai academaidd.”
Dywedodd Dr Sara Jones (Darlithydd Cydlynol yn CPE): "Rydym mor falch o groesawu Sikiya yn ôl i CPE yn diwtor. Rwy'n sicr y bydd yn ysbrydoli eraill gan ei bod yn diwtor sydd wedi profi'r llwybr yn uniongyrchol"
Dim ond un o ddeuddeg llwybr a ddarperir gan CPE yw'r Llwybr at y Gwyddorau Cymdeithasol.