Mae'r astudiaeth fwyaf o'i math yn cysylltu genynnau penodol â sgitsoffrenia
6 Ebrill 2022
Mae'r astudiaeth enetig fwyaf erioed o sgitsoffrenia wedi adnabod nifer fawr o enynnau penodol a allai chwarae rhan bwysig yn yr anhwylder seiciatrig.
Dadansoddodd grŵp o gannoedd o ymchwilwyr mewn 45 o wledydd DNA 76,755 o bobl â sgitsoffrenia a 243,649 hebddo er mwyn deall yn well y genynnau a'r prosesau biolegol sy'n sail i'r cyflwr.
Canfu astudiaeth y Consortiwm Genomeg Seiciatrig, dan arweiniad gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, nifer llawer mwy o gysylltiadau genetig â sgitsoffrenia nag erioed o'r blaen, mewn 287 o ranbarthau gwahanol yn y genom, sef glasbrint DNA y corff dynol.
Ar ben hynny, dangoson nhw fod risg genetig o ran sgitsoffrenia mewn genynnau sydd wedi'u crynhoi yng nghelloedd yr ymennydd o'r enw niwronau, ond nid mewn unrhyw fath arall o feinwe neu gell, ac mae hyn yn awgrymu mai rôl fiolegol y celloedd hyn yw’r elfen hanfodol yn achos sgitsoffrenia.
Dywed y tîm ymchwil fod yr astudiaeth fyd-eang hon yn taflu’r goleuni cryfaf hyd yn hyn ar sail genetig sgitsoffrenia. Cyhoeddir yr ymchwil heddiw yn y cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw Nature.
“Mae ymchwil flaenorol wedi dangos cysylltiadau rhwng sgitsoffrenia a llawer o ddilyniannau DNA dienw, ond yn anaml cyn hyn y bu'n bosibl cysylltu'r canfyddiadau â genynnau penodol,” meddai'r cyd-arweinydd, yr Athro Michael O'Donovan, o'r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Roedd yr astudiaeth bresennol wedi cynyddu nifer y cysylltiadau hynny yn sylweddol, ond ar ben hynny rydyn ni bellach wedi gallu cysylltu llawer ohonyn nhw â genynnau penodol, sef cam angenrheidiol yn yr hyn sy'n parhau i fod yn daith anodd tuag at ddeall achosion yr anhwylder hwn ac adnabod triniaethau newydd.”
Anhwylder seiciatrig difrifol yw sgitsoffrenia sy'n dechrau yn hwyr yn arddegau pobl ifanc neu pan fyddan nhw’n oedolyn ifanc. Ar unrhyw un adeg bydd yn effeithio ar oddeutu un o bob 300 o bobl ledled y byd, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd.
Yn yr astudiaeth fwyaf o’r cysylltiadau sydd gan genomau hyd yma, canfu’r tîm ymchwil fod “cynnydd sylweddol” yn nifer y rhanbarthau genomig sy'n gysylltiedig â sgitsoffrenia. Yn y rhanbarthau hyn, roedden nhw wedyn yn defnyddio dulliau datblygedig i adnabod 120 o enynnau sy'n debygol o gyfrannu at yr anhwylder.
Yn ogystal â’r ffaith mai hi yw’r astudiaeth fwyaf o'i math, roedd yr ymchwilwyr yn cynnwys mwy na 7,000 o bobl o dras Affricanaidd-Americanaidd neu Latino yn yr hyn maen nhw'n ei ddweud sy'n gam bach tuag at sicrhau bod datblygiadau ym maes astudiaethau genetig yn gallu bod o les i bobl nad ydyn nhw o dras Ewropeaidd.
Er bod nifer fawr o amrywolion genetig yn gysylltiedig â sgitsoffrenia, dangosodd yr astudiaeth eu bod wedi'u crynhoi mewn genynnau ar ffurf niwronau, gan ddadlau mai’r celloedd hyn yw’r safle pwysicaf o ran patholeg. Mae'r canfyddiadau hefyd yn awgrymu bod niwronau sy’n gweithio mewn ffordd abnormal yn achos sgitsoffrenia yn effeithio ar lawer o ardaloedd yn yr ymennydd, ac y gallai hyn esbonio ei symptomau amrywiol. Ymhlith y rhain hwyrach y bydd rhithwelediadau, rhithdybiau a phroblemau o ran meddwl yn glir.
Cafodd gallu'r tîm i gysylltu sgitsoffrenia â genynnau a meysydd bioleg penodol ei wella drwy gydlynu ei waith ag astudiaeth gymar a oedd yn cynnwys llawer o'r un gwyddonwyr, gan gynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, dan arweiniad Sefydliad Broad yn Harvard a’r MIT, a’i gyhoeddi yn Nature.
Edrychodd yr astudiaeth honno ar fwtaniadau sydd, er eu bod yn brin iawn, yn cael effeithiau mawr ar y gyfran fach o bobl sy'n eu cludo, gan ganfod genynnau sy'n gorgyffwrdd yn ogystal ag agweddau ar fioleg sy'n gorgyffwrdd.
Dyma a ddywedodd yr Athro James Walters, cyd-arweinydd y papur dan arweiniad Caerdydd a Chyfarwyddwr Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd: “Er bod pobl â sgitsoffrenia yn gallu gwella, ni fydd llawer yn ymateb yn dda i driniaethau, byddan nhw’n dioddef problemau hirdymor o safbwynt eu hiechyd meddwl a chorfforol, yn ogystal ag effeithiau ar eu perthnasau, eu haddysg a’u gwaith.
“Ein gobaith yw y bydd y canfyddiadau yn yr astudiaeth hon, a'r astudiaethau cymar, yn cael eu defnyddio i wella ein dealltwriaeth o'r anhwylder a hwyluso’r gwaith o ddatblygu triniaethau radical newydd. Fodd bynnag, yn aml nid yw'r prosesau hynny'n rhai syml, ac mae angen llawer o waith gan niwrowyddonwyr eraill i droi'r canfyddiadau genetig yn ddealltwriaeth fanwl o fecanweithiau clefydau.”
Ariennir y Consortiwm Genomeg Seiciatrig gan y Sefydliad Iechyd Meddwl Cenedlaethol (NIMH) yn UDA a chefnogwyd gwaith yng Nghaerdydd yn ychwanegol gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.
Dyma a ddywedodd Dr Joshua Gordon, Cyfarwyddwr NIMH: “Mae'r canlyniadau hyn, a gafwyd yn sgîl cydweithio byd-eang heb ei debyg o’r blaen o ran ei gwmpas, yn gam pwysig ymlaen yn ein dealltwriaeth o darddiad sgitsoffrenia. Bydd y canfyddiadau yn golygu y gall ymchwilwyr ganolbwyntio ar lwybrau penodol yn yr ymennydd wrth barhau i chwilio am therapïau newydd ar gyfer y salwch meddwl difrifol hwn.”
Mae'r astudiaeth hon wedi dangos pwysigrwydd a phŵer samplau mawr mewn astudiaethau genetig er mwyn deall anhwylderau seiciatrig yn well. Mae'r tîm bellach yn ceisio recriwtio rhagor o bobl i gymryd rhan mewn ymchwil a llunio setiau data mwy amrywiol a mwy o faint i’n helpu i ddeall sgitsoffrenia yn well.
I gymryd rhan yn eu hastudiaeth ar-lein ar seicosis a sgitsoffrenia, ewch i https://www.ncmh.info/psresearch