Ehangu cwmpas gwasanaeth cymorth iechyd meddwl er mwyn cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol yn ogystal â gweithwyr y GIG
5 Ebrill 2022
Bydd cwmpas gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sydd ar gael yn rhad ac am ddim yn cael ei ehangu er mwyn cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ogystal â gweithwyr y GIG.
O heddiw ymlaen, bydd Canopi, gwasanaeth dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn rhoi cymorth a chyngor sy’n gyfrinachol a phersonol i staff gofal cymdeithasol hefyd, gan gynnwys cynorthwywyr personol a staff gweinyddu a rheoli.
Bydd gweithwyr y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol yn gallu cael gwasanaeth cyfrinachol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys gwasanaeth cwnsela wyneb-yn-wyneb, adnoddau hunangymorth a therapi drwy sesiynau rhithwir.
Ac yntau’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi £1.5 miliwn iddo bob blwyddyn tan 2025, mae Canopi wedi recriwtio therapyddion ychwanegol er mwyn ei gwneud yn bosibl ehangu cwmpas y gwasanaeth.
Dywedodd yr Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr Canopi: “Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod heriol iawn i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn falch iawn o allu ehangu cwmpas ein gwasanaeth i gynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn iddynt allu cael yr un cymorth iechyd meddwl a lles â gweithwyr y GIG yng Nghymru.
“Mae Canopi’n rhywle cyfrinachol a chroesawgar lle gall gweithwyr gael gwahanol fathau o gymorth iechyd meddwl, gynnwys hunangymorth, hunangymorth dan arweiniad, cymorth gan eu cydweithwyr a therapi wyneb-yn-wyneb rithwir gan arbenigwyr achrededig.”
Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol oedd enw’r gwasanaeth yn wreiddiol. Mae’r gwasanaeth, a sefydlwyd ac a arweinir gan Brifysgol Caerdydd, wedi newid ei enw i gwmpasu’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
O dan yr enw gwreiddiol, gwnaeth y gwasanaeth helpu 800 o feddygon o bob rhan o Gymru rhwng 2012 a 2020. Cafodd cwmpas y gwasanaeth ei ehangu yn 2020 at ddibenion rhoi cymorth iechyd meddwl i weithwyr y GIG yng Nghymru a oedd yn mynd i’r afael â phandemig COVID-19, ac mae wedi helpu 2,300 o unigolion ers hynny.
Gwnaeth Geraint Jones, uwch fferyllydd HIV a gofal cartref, gysylltu â'r gwasanaeth ym mis Hydref 2020 tra oedd yn addasu i fyw gyda COVID hir, a oedd yn cael effaith enfawr ar ei fywyd.
“Gofynnais i Canopi am gymorth, yn bennaf allan o anobaith ac am nad oeddwn yn gwybod at bwy i droi am help,” meddai.
“Cafodd therapydd ei neilltuo i mi, a wnaeth fy arwain drwy sesiynau Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Roedd y strategaethau y gwnaethom eu trafod yn rhai syml iawn a byth yn pwyso gormod arnaf yn feddyliol. Roeddwn yn gwerthfawrogi hynny, gan nad oedd gennyf y gallu meddyliol o gwbl rai dyddiau.
“Ni allaf ddiolch i dîm Canopi ddigon am fy arwain drwy rai cyfnodau anodd iawn pan nad oedd neb arall yn deall fy mhroblemau a’m pryderon.”
Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: “Mae gweithwyr rheng flaen y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol wedi bod yn anhygoel drwy gydol y pandemig, gan roi sylw i iechyd corfforol a meddyliol y rhai mewn angen. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod eu hiechyd meddwl a'u lles nhw’n cael eu cefnogi.
“Mae adborth y rhai sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth yn barod wedi bod yn gadarnhaol iawn. Rwy'n gobeithio, drwy barhau i ariannu’r gwasanaeth, y bydd mwy o bobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Rwy’n falch iawn o’r ffaith bod darpariaeth bwrpasol ar gael ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol erbyn hyn er mwyn sicrhau bod cyngor a chymorth addas yn cael eu rhoi i’r rhai sy’n gweithio yn y sector hollbwysig hwn.”
Mae’r gwasanaeth ar gael rhwng 9am a 5pm. Mae angen mynd i canopi.nhs.wales i lenwi’r ffurflen hunan-atgyfeirio.
Os byddai gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu weithio i'r gwasanaeth, ebostiwch canopi@caerdydd.ac.uk