Mae astudiaeth o bwys yn datgelu 42 o enynnau newydd sy'n gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu clefyd Alzheimer
4 Ebrill 2022
Mae astudiaeth ryngwladol newydd o bwys sy'n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi adnabod 75 o enynnau sy'n gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu clefyd Alzheimer, gan gynnwys 42 o enynnau newydd nad oeddyn nhw’n gysylltiedig â’r cyflwr o'r blaen.
Yn ogystal â chadarnhau canfyddiadau blaenorol sy'n awgrymu'r proteinau amyloid-beta a tau sy'n cronni mewn celloedd nerfol ac o'u hamgylch wrth i'r clefyd fynd yn ei flaen, mae'r astudiaeth yn cynnig tystiolaeth argyhoeddiadol sy’n cefnogi rôl llid a'r system imiwnedd yn y clefyd.
Clefyd Alzheimer yw'r achos mwyaf cyffredin o ddementia, cyflwr sy'n effeithio ar fwy na 850,000 o bobl yn y DU.
Roedd yr astudiaeth fwyaf o'i bath yn cynnwys ymchwilwyr a ddadansoddodd genom mwy na 100,000 o bobl â chlefyd Alzheimer a'u cymharu â mwy na 600,000 o bobl iach i chwilio am wahaniaethau yn y cyfansoddiad genetig.
Yn y DU, cafodd y prosiect ei gyd-arwain gan yr ymchwilwyr Dr Rebecca Sims a'r Athro Julie Williams o Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU (DRI y DU) ym Mhrifysgol Caerdydd, a’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.
Cyhoeddir y canfyddiadau heddiw mewn erthygl yn y cyfnodolyn Nature Genetics.
Dyma a ddywedodd Dr Rebecca Sims, Uwch-gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyd-ymchwilydd DRI y DU, a chyd-arweinydd yr astudiaeth: "Mae'r astudiaeth hon yn dyblu mwy na dwywaith nifer y genynnau a adnabuwyd sy'n dylanwadu ar risg ar gyfer y math mwy cyffredin o glefyd Alzheimer. Mae'n rhoi targedau cyffrous newydd i gynnal ymyraethau therapiwtig ac yn datblygu ein gallu i ddatblygu algorithmau i ragweld pwy fydd yn datblygu Clefyd Alzheimer yn ddiweddarach mewn bywyd."
Dyma a ddywedodd yr Athro Julie Williams, Cyfarwyddwr Canolfan DRI y DU ym Mhrifysgol Caerdydd, cyd-awdur yr astudiaeth ac arweinydd y consortiwm Risg Genetig ac Amgylcheddol ar gyfer clefyd Alzheimer: "Dyma astudiaeth o bwys ym maes ymchwil Alzheimer a phenllanw 30 mlynedd o waith. Mae geneteg wedi ein helpu i adnabod mecanweithiau clefydau penodol y gallwn ni eu targedu'n therapiwtig, a bydd yn parhau i wneud hynny. Mae'r darn hwn o waith yn gam mawr ymlaen yn ein cenhadaeth i ddeall Clefyd Alzheimer, a chreu yn y pen draw nifer o driniaethau y bydd eu hangen i ohirio neu atal y clefyd.
"Mae'r canlyniadau'n cefnogi ein gwybodaeth gynyddol bod clefyd Alzheimer yn gyflwr hynod gymhleth sydd â nifer o sbardunau, llwybrau biolegol a mathau o gelloedd yn gysylltiedig â'i ddatblygiad. Rydyn ni’n datgelu mwy o'r achosion hyn o flwyddyn i flwyddyn, ac mae hyn hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddatblygu therapiwteg.
Am y tro cyntaf, mae'r canfyddiadau'n dangos bod llwybr rhoi signalau biolegol penodol sy'n cynnwys TNF-alpha, protein sydd â rôl bwysig o ran llid a'r system imiwnedd, yn gysylltiedig â chlefyd Alzheimer.
Yn ogystal, ceir mwy o dystiolaeth bod camweithredu microglia, sef celloedd imiwnedd yn yr ymennydd sy'n gyfrifol am ddileu sylweddau gwenwynig, yn cyfrannu at batholeg y clefyd.
Yn seiliedig ar y canlyniadau hyn, dyfeisiodd yr ymchwilwyr sgôr risgiau genetig hefyd i benderfynu pa mor debygol yw hi y bydd cleifion â nam gwybyddol, cyn pen tair blynedd o ddangos symptomau yn gyntaf, yn mynd ymlaen i ddatblygu clefyd Alzheimer. Ni fwriedir i'r sgôr gael ei defnyddio mewn ymarfer clinigol ar hyn o bryd, ond mae ymchwilwyr yn gobeithio y bydd yn gwella'r broses o werthuso cyffuriau newydd mewn treialon clinigol.
Yn y dyfodol, mae'r gwyddonwyr yn gobeithio y gellir defnyddio'r canfyddiadau i adnabod pobl yn y boblogaeth sydd fwyaf tebygol o ddatblygu clefyd Alzheimer cyn iddyn nhw ddechrau datblygu'r cyflwr.
Cynhaliwyd y prosiect mewn canolfannau ymchwil mewn wyth gwlad bartner, gan gynnwys y DU, UDA, Awstralia ac ar draws Ewrop a chafodd ei arwain gan yr Athro Jean-Charles Lambert, Cyfarwyddwr Ymchwil Inserm, Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd a Meddygol Ffrainc.