Ewch i’r prif gynnwys

Creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yng Nghymru

1 Ebrill 2022

Illustration of a chain of people holding hands

Mae Abyd Quinn Aziz, Cyfarwyddwr yr MA mewn Gwaith Cymdeithasol, wedi’i benodi i banel arbenigol Llywodraeth Cymru ar iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r panel wedi’i sefydlu i ddarparu argymhellion ar gamau ymarferol y gellir eu cymryd tuag at greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, lle mae gofal am ddim pan fo angen.

Mae’r panel yn cynnwys unigolion sydd â phrofiad o redeg gwasanaethau gofal cymdeithasol, llywodraeth leol, cyllid ac economeg, academyddion a defnyddwyr gwasanaethau.

Mae amcanion y panel yn cynnwys cynnal adolygiad cyflym o’r dystiolaeth gyfredol am dalu am ofal cymdeithasol a’i ariannu, ac ystyried y llwybr gorau posibl i ofal cymdeithasol ddod yn rhad ac am ddim pan fo angen.

Mae’r grŵp arbenigol i fod i gyflwyno ei argymhellion erbyn diwedd mis Ebrill, ac yn dilyn hynny bydd Cynllun Gweithredu’n cael ei ddatblygu erbyn diwedd 2023.

Yn Uwch Ddarlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol, mae gan Abyd dros 25 mlynedd o brofiad ym maes Gofal Cymdeithasol mewn amrywiaeth o leoliadau cyn gweithio yn y brifysgol ac mae’n cadeirio is-grŵp Cyflenwi Gofal Cymdeithasol a Systemau’r panel.

Yn gam hanesyddol ymlaen

Wrth gael ei benodi i’r panel, dywedodd Abyd “I mi, mae’n rhaid i iechyd a gofal cymdeithasol weithio gyda’i gilydd mewn modd integredig gan fod y rhain mor rhyngberthynol.  Mae annog gweithio mewn partneriaeth, cyd-gynhyrchu a lleihau’r rhwystrau niferus rhwng y ddau yn allweddol, yn ogystal â’r syniad o ddarparu gwasanaethau o ansawdd da sy’n hygyrch i bawb sydd eu hangen.”

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Mae gofal cymdeithasol yn bwysig i bob un ohonom, mae llawer o’n teulu a’n ffrindiau yn dibynnu arno a bydd llawer ohonom yn dod i gysylltiad â gofal cymdeithasol ar rai adegau yn ein bywydau. Bydd y panel newydd hwn yn edrych ar y materion sy’n wynebu’r sector ac yn archwilio sut yr ydym yn symud tuag at sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru.”

Dywedodd yr Aelod Dynodedig Cefin Campbell MS: “Bydd creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol newydd, sydd am ddim pan fo angen, yn gam hanesyddol ymlaen at ofalu am rai o’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae ein system ofal a’r rhai sy’n gweithio ynddi yn gwneud cymaint i ofalu am ein hanwyliaid. Mae’n system sy’n wynebu llawer o heriau a bydd angen ei newid ac addasu yn y blynyddoedd i ddod.

“Mae mor galonogol ein bod yn dod at ein gilydd, mewn ysbryd cydweithredol Cymreig, i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau ar draws y wlad, a rhoi’r rhai mwyaf bregus yn gyntaf. Bydd y panel arbenigol hwn yn dod â’u harbenigedd, gwybodaeth a phrofiad wrth i ni gyda’n gilydd gymryd ein cam cyntaf tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol newydd i Gymru.”

Rhannu’r stori hon

Find out more about this programme and how to apply.