Yr Ysgol Cerddoriaeth yn cynnal cyngerdd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
31 Mawrth 2022
Cynhaliodd Ysgol Cerddoriaeth Caerdydd gyngerdd arbennig ddydd Mawrth 8 Mawrth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gan dalu teyrnged i weithiau cerddorol a ysgrifennwyd, cyfarwyddwyd, trefnwyd a pherfformiwyd gan fenywod, a darnau ble menywod sy’n cymryd y llwyfan fel prif gymeriadau.
Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw #BreakTheBias, gan helpu i greu byd cyfartal rhwng y rhywiau ac annog pobl i herio stereoteipiau rhywedd, gwahaniaethu a bias.
Rhoddwyd sylw i gyfansoddwyr y presennol a’r gorffennol, gyda genres yn cynnwys cerddoriaeth siambr, cân gelf, opera, canu gwerin, jazz a theatr gerdd. Roedd y digwyddiad hwn yn amrywiol o artistig ac yn ysbrydoledig gyda’i gyfansoddiadau adnabyddus a phoblogaidd ochr yn ochr â pherfformiadau.
Dywedodd Ani Hanson, myfyrwraig israddedig a berfformiodd yn y cyngerdd: “Gan fy mod yn ferch sy’n ymwneud â’r byd jazz, mae’n amhosibl peidio â chydnabod y gwahaniaeth rhwng y rhywiau ymhlith y cerddorion a’r artistiaid. Teimlais fod y cyngerdd yn gyfle pwysig i arddangos nid yn unig cerddoriaeth hyfryd Carole King, ond hefyd dawn anhygoel y merched o’m cwmpas.”
Dywedodd Alexandra Chen, myfyrwraig MA mewn Cerddoriaeth: “Roedd y cyngerdd yn gyfle gwych i gerddorion benywaidd rannu eu doniau, perfformio eu gwaith a chael eu cofio, a hefyd yn fy achos i, gwneud eu hymddangosiad cyntaf fel cyfansoddwr! Roedd hefyd yn caniatáu i gyfranogwyr arddangos yr amrywiaeth o weithiau anhygoel nad oedd y gynulleidfa efallai wedi sylweddoli eu bod wedi’u hysgrifennu gan gerddorion benywaidd.”
Dywedodd Cameron Gardner, cyfarwyddwr y cyngerdd: “Roedd cyngerdd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn arddangos doniau ac ymroddiad ein myfyrwyr wrth ddathlu mater diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol sy’n bwysig iddyn nhw. Fel cyfarwyddwr, roedd yn anrhydedd mawr i mi allu eu helpu i roi llwyfan iddyn nhw a sicrhau cynulleidfa oedd bron wedi cyrraedd capasiti’r ystafell.”