Ewch i’r prif gynnwys

Pobl ifanc yn adolygu adnodd gwasanaethau cwnsela

5 Mai 2022

a group of young people laughing in a circle wearing bright colours

Cynghorwyr Ieuenctid Canolfan Wolfson yn cynnig adborth ar adnodd newydd i rannu gwybodaeth ar wasanaethau cwnsela yng Nghymru.

Yn ddiweddar, paratôdd ymchwilwyr o DECIPHer a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru ar y gwasanaethau cwnsela statudol mewn ysgolion a'r gymuned yng Nghymru. Roedd yr adroddiad, Adolygiad o wasanaethau cwnsela mewn ysgolion a chymunedau, yn cynnwys argymhellion ar wella'r gwasanaethau hyn i blant a phobl ifanc.

Mae'r tîm ymchwil bellach wrthi'n drafftio adnodd cryno ategol i ieuenctid fel rhan o'r cynlluniau i ledaenu'r adroddiad.  Dangoswyd drafft o'r adnodd cryno i ieuenctid i Grwpiau Cynghori Ieuenctid Canolfan Wolfson yn ystod eu cyfarfod diweddar ym mis Mawrth.

Cynigiodd y cynghorwyr ieuenctid eu hadborth ar wneud y wybodaeth mor ddifyr a defnyddiol â phosibl i blant a phobl ifanc. Rhannon nhw eu barn ar gynnwys ac ymddangosiad yr adnodd, yn ogystal ag awgrymiadau ar sut y gellid lledaenu'r wybodaeth yn effeithiol i gyrraedd pobl ifanc yn uniongyrchol.

Dywedodd Dr Gillian Hewitt a greodd yr adnodd drafft cryno i ieuenctid "Roedden ni am greu adnodd fyddai'n crynhoi canfyddiadau a gwybodaeth allweddol yr adroddiad llawn mewn ffordd a fyddai'n hygyrch i bobl ifanc. Y ffordd orau i wneud hyn oedd clywed gan y bobl ifanc eu hunain.

"Roedd yn wych clywed barn Cynghorwyr Ieuenctid Canolfan Wolfson. Rhannodd y bobl ifanc syniadau arbennig o ddefnyddiol ar gynnwys yr adnodd drafft a chynnig barn greadigol ar sut i sicrhau bod yr adnodd yn drawiadol ac yn hygyrch i'n cynulleidfa darged. Rhannon nhw syniadau defnyddiol iawn hefyd ar ffyrdd i sicrhau bod yr adnodd yn cael ei weld gan bobl ifanc, fel mewn gwasanaethau ysgol a grwpiau ieuenctid, yn ogystal ag ar-lein."

Ychwanegodd Nathan, un o Gynghorwyr Ieuenctid Canolfan Wolfson: "Rwyf i wrth fy modd gyda'r sesiynau sy'n cynnwys trafod ymchwil sy'n cael effaith, gofyn y cwestiynau pwysig a llywio'r arferion dilynol yn uniongyrchol at y dyfodol.

"Fe wyddom fod lledaenu gwybodaeth yn gynyddol bwysig ac mae'n fraint ryfeddol cael chwarae rhan yn y gwaith. Rwy'n falch iawn o'r grŵp hefyd am eu cyfraniadau creadigol a'u hangerdd ysbrydoledig dros wella canlyniadau iechyd meddwl cenedlaethau'r dyfodol!"

Ychwanegodd Rouhma, un arall o Gynghorwyr Ieuenctid Canolfan Wolfson: "Roedd y cyfle hwn yn gadael i fi fynegi fy sgiliau dylunio graffeg a seicoleg hysbysebu i helpu i arloesi gyda rhai syniadau ar sut i wella cynnwys ac ymddangosiad yr adroddiad."

Youth Advisor quote reviewing counsellor services

Dywedodd Emma Meilak, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd Canolfan Wolfson, sy'n hwyluso'r Grwpiau Cynghori Ieuenctid: "Cydiodd ein Cynghorwyr Ieuenctid yn yr her o ddadansoddi eu crynodeb ymchwil cyntaf. Yn ôl eu harfer, daeth y bobl ifanc â brwdfrydedd a chreadigrwydd i'r dasg, gan gynnig syniadau gwerthfawr i'r ymchwilwyr geisio eu hymgorffori yn eu cynlluniau wrth i'r adnodd ddatblygu."

Fel y casglodd Dr Hewitt: "Mae'r bobl ifanc wedi rhoi llawer i ni feddwl amdano wrth i ni barhau i weithio ar wneud yr adnodd hwn y gorau y gall fod. Rwy'n edrych ymlaen at ddod yn ôl at y grwpiau eto'n fuan a rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith eu cyngor o ran gwireddu'r adnodd cryno hwn i ieuenctid."

Mae adroddiad llawn Llywodraeth Cymru, Adolygiad o wasanaethau cwnsela mewn ysgolion a chymunedau, ar gael i'w weld ar-lein.

Mae'r crynodeb hygyrch a helpodd y cynghorwyr ieuenctid i adolygu, Gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion a chymunedol i blant a phobl ifanc yng Nghymru: A ydynt yn gweithio'n dda a sut y gellir eu gwella?,hefyd ar gael ar-lein erbyn hyn.

Rhannu’r stori hon

Os hoffech gymryd rhan neu os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy, cysylltwch â ni.