Y Gweithiau Celf sydd Wedi’n Creu Ni
30 Mawrth 2022
Hanesydd o Gaerdydd yn rhan o gyfres deledu nodedig sy'n adrodd fersiwn unigryw o hanes Ynysoedd Prydain
Mae’r hanesydd Dr Marion Loeffler wedi bod yn rhannu ei harbenigedd yng nghyfoeth hanes Cymru, mewn cyfres newydd sbon fydd yn cyrraedd y sgrîn ym mis Ebrill.
Drwy 1,500 o flynyddoedd ac wyth trobwynt dramatig, mae’r gyfres nodedig Art that Made Us yn adrodd fersiwn unigryw o hanes Ynysoedd Prydain, drwy gyfrwng celf.
Ymysg yr haneswyr diwylliant sy’n archwilio gweithiau diwylliannol nodedig - gweithiau sy’n diffinio pob cyfnod, mae Clare Lees, Patrick Wright, Temi Odumosu, Heather Jones, Murray Pittock, John Mullan, Afua Hirsch a Nandini Das.
Mae rhai o ymarferwyr creadigol mwyaf nodedig Prydain, gan gynnwys Anthony Gormley, Simon Armitage, Cornelia Parker, Shani Rhys James, Lubaina Himid, Eddie Izzard, a Michael Sheen yn myfyrio ar y gweithiau hyn o safbwynt cyfoes.
Mae’r gyfres wyth-rhan yn archwilio darnau celf o bob genre, a gawsant eu creu yn ystod cynnwrf rhai o’r cyfnodau mwyaf argyfyngus a stormus yn hanes Prydain.
Mae pob pennod awr o Art That Made Us yn archwilio wyth i ddeg o weithiau celf o bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae artistiaid cyfoes yn archwilio’r gweithiau ar leoliad. Mae’r artistiaid hyn yn cysylltu’r gorffennol â’r presennol, gan ddatgelu’r effaith mae’r gweithiau hanesyddol yn ei chael ar eu gweithiau celf nhw’u hunain heddiw.
Yn Ddarllenydd yn Hanes Cymru, mae Dr Marion Loeffler wedi bod yn rhan o’r gyfres gyfan, gan ymddangos ar y sgrîn mewn amryw o benodau gan gynnwys Lights in the Darkness, Queens, Feuds and Faith a Rise of the City.
Mae’r bennod agoriadol Lights in the Darkness yn dangos sut roedd y cyfnod cythryblus hwnnw, wedi i’r Rhufeiniaid feddiannu Prydain - yr oesoedd tywyll fel y cawsant eu hadnabod ar un adeg, yn gyfnod o gelfyddyd ddisglair ac asio diwylliannol rhyfeddol, mewn gwirionedd, ac mae’r bennod yn olrhain sut y bu i bobloedd Celtaidd, Eingl-Sacsonaidd a Llychlynnaidd ymladd am oruchafiaeth, gan adael darnau dirgel o gelfyddyd ar eu holau. Mae Dr Loeffler yn cyflwyno cyd-destun hanesyddol wrth i’r actor Michael Sheen berfformio Y Gododdin, y gerdd Gymraeg o’r seithfed ganrif am wrthsafiad yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid.
Mae hi hefyd yn dangos rôl y Beibl Cymraeg yn y chwyldro crefyddol modern cynnar; mae Queens, Feuds and Faith yn adrodd sut bu i rannau sylweddol o Ynysoedd Prydain droi’n Brotestannaidd. Gyda Dr Lisa Tallis hefyd yn rhan o’r bennod, telir sylw i argraffiad prin y Brifysgol ei hun o Feibl William Morris (argraffiad sydd wedi’i ddarllen droeon yn ôl ei olwg), y mae'r tîm Casgliadau Arbennig ac Archifau yn gofalu amdano.
Yn Rise of the City, gan olrhain y symud pendant mewn grym o gefn gwlad i'r ddinas yn y 19eg ganrif, mae'r Darllenydd yn Hanes Cymru yn trafod ymgais Penry Williams i ddarlunio harddwch diwydiant mewn gweithiau megis Cyfarthfa Ironworks Interior at Night.
Mae’r gyfres yn treiddio o’r brwydrau fu’n digwydd yn dilyn goruchafiaeth y Rhufeiniaid ac egni creadigol newydd yr Oesoedd Canol i’r brwydro a gafwyd o ran ffydd a breninesau yn ystod y Diwygiad Protestannaidd, a’r Rhyfel Cartref chwerw a ffrwydrodd ar draws yr holl deyrnasoedd. Gan archwilio’r twf o ran prynu a welwyd yn yr oes Sioraidd, a thwf cydwybod newydd ynghylch caethwasiaeth, i dwf anferth y ddinas yn ystod y 19eg ganrif, mae'r gyfres yn edrych hefyd ar yr artistiaid fu’n dychmygu gwell dyfodol yng nghanol rhyfeloedd byd, cyn ystyried y newidiadau egnïol fu o ran diwylliant, ieuenctid, rhyw a gwrthryfel ar ôl 1960.
Mae Art That Made Us yn cael ei ddarlledu ar BBC Two ym mis Ebrill, gyda’i chwaer ŵyl gelfyddydol, gyffrous, yn cael ei chynnal ym mhedair gwlad y DU.
Mae Casgliadau Arbennig ac Archifau'r Brifysgol yn un o nifer o safleoedd sy'n cefnogi menter gelfyddydol y DU gyfan.