Première theatr diweddaraf yr Awdur o Gaerdydd
30 Mawrth 2022
Y ddameg amgylcheddol fu i’w gweld ar y sgrîn fawr â Terence Stamp yn serennu ynddi, nawr yn sioe theatr am y tro cyntaf
Mae’r ddrama gyffro, a ysgrifennwyd ar gyfer y theatr yn y lle cyntaf, gan Tim Rhys, darlithydd Ysgrifennu Creadigol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth (ENCAP) wedi cael ei pherfformio ar y llwyfan am y tro cyntaf, a hynny yma yn y brifddinas.
Yn ddameg amgylcheddol amserol, ceir yn Stone the Crows bortread grymus o, grwpiau ymylol a’r hyn maent yn gorfod delio ag o, ac o’r peryglon o orfodi pobl – a byd natur – i gornel sydd hyd yn oed yn fwy cyfyng, ac yn futrach, nes bod yn rhaid i rywbeth newid. Mae’r ddrama’n dilyn dau berson sy’n ceisio heddwch cefn gwlad yn yr un man - ond mewn ffyrdd gwahanol iawn, sy’n golygu eu bod yn dod benben a’i gilydd.
Yn bwerus a digyfaddawd yn arddull unigryw Rhys, mae Stone the Crows wedi'i gynhyrchu gan y cwmni o Gymru, Winterlight, ar y cyd â Company of Sirens.
Mae’r cynhyrchiad theatr wedi’i gyfarwyddo gan Chris Durnall o Company of Sirens, gyda Boo Golding ac Oliver Morgan Thomas yn perfformio, a cherddoriaeth fyw wedi’i chyfansoddi’n arbennig gan Eren Anderson. Mae Winterlight wedi cynhyrchu dwy o ddramâu diweddaraf Rhys, Touch Blue Touch Yellow a Quiet Hands, a gawsant hefyd eu perfformio am y tro cyntaf yn Chapter.
Bu i’r fersiwn ffilm Crow gyrraedd y sgrîn am y tro cyntaf yn un o’r ychydig ffilmiau Prydeinig a ddewiswyd ar gyfer gŵyl ffilm genre, fwyaf, y DU, FrightFest yn 2016.
Wedi'i haddasu ar gyfer y sgrîn gan yr awdur o Gymru ei hun, ynghyd â'r cynhyrchydd-gyfarwyddwr Wyndham Price a'r actor Nick Moran (Lock, Stock & Two Smoking Barrels), roedd cast y ffilm yn cynnwys Nick Moran, Tom Rhys Harries, Andrew Howard (Taken 3), Elen Rhys (The Mallorca Files, Hidden), Danny Webb (Alien 3) a'r actor eiconig Terence Stamp.
Mae’r Dr Tim Rhys ynghyd ac awduron cyhoeddedig eraill, yn dysgu Ysgrifennu Creadigol ar lefel israddedig ac uwchraddedig yn yr Ysgol ENCAP. Mae ei waith theatr diweddar yn cynnwys Quiet Hands a Touch Blue Touch Yellow.
Perfformiwyd Stone the Crows am y tro cyntaf yn Theatr Seligman, Canolfan Gelfyddydau Chapter ar 28 Mawrth, a bydd i’w gweld yno tan 1 Ebrill 2022.