Postgraduate student receives dissertation award
28 Mawrth 2022
Mae Rebecca Gormley, cyn-fyfyriwr Meistr ac israddedig yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, wedi ennill Gwobr Traethawd Hir Ôl-raddedig 2022 gan Grŵp Daearyddiaeth Hamdden a Thwristiaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (RGS).
Mae’r Grŵp Ymchwil Daearyddiaeth Hamdden a Thwristiaeth yn cynnig gwobr o £150 bob blwyddyn am y traethawd meistr gorau a addysgir mewn hamdden, twristiaeth, neu ddaearyddiaeth chwaraeon, a gyflwynir fel rhan o radd MSc.
Fe aeth traethawd hir Rebecca, “(B)ordering backpacking: the influence of Instagram on the gendered nature of travel and mobility” i’r afael â’r tueddiadau o ran rhywedd yng nghyd-destun warbacio a dylanwad Instagram, ac mae’r traethawd yn gwneud cyfraniad cryf iawn i ddaearyddiaeth twristiaeth.
Wrth ymateb i'r wobr, dywedodd Rebecca: ‘Mae derbyn y wobr hon yn golygu cymaint, yn enwedig oherwydd y cyd-destun pan ysgrifennais y traethawd hir. Ro’n i eisiau ymchwilio i'r ffyrdd roedd defnyddio Instagram, un o blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol yn llywio’r tueddiadau o ran rhywedd yng nghyd-destun warbacio’n rhyngwladol, ond wrth gwrs roeddwn i'n gwneud hyn ar adeg pan nad oedd modd teithio'n hawdd.
“Roedd yn rhaid imi ddatblygu dull arloesol a chynnil er mwyn gallu ymchwilio i Instagram fel 'platfform' ar gyfer twristiaeth, ac arbrofi gyda’r categorïau canlynol; 'hunaniaethau', 'ideolegau' a 'threfniadau teithio' fel sail i fframio perfformiad. Roedd hyn yn fy ngalluogi i fynd i'r afael â’r trafodaethau ar rywedd a ymgorfforwyd o fewn Insta-warbacio a dadansoddi sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn fwy cyffredinol yn llywio datblygiad teithio a thwristiaeth.
“Roedd ysgrifennu'r gwaith hwn yn gyflawniad personol ac academaidd enfawr ac mae'n anrhydedd fod y gwaith hwn yn cael ei gydnabod gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.
“Yn olaf, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'm goruchwyliwr ar gyfer y traethawd hir, yr Athro Jon Anderson, oherwydd he