Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd
25 Mawrth 2022
Ar ôl oedi o 18 mis oherwydd pandemig COVID-19, bydd tua 25,000 o redwyr yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd ddydd Sul (27 Mawrth 2022).
Yn eu plith bydd y 350 o redwyr yn #TeamCardiff, sef grŵp o staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a ffrindiau sy'n anelu at godi £70,000 ar gyfer ymchwil i niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl y Brifysgol, yn ogystal ag ymchwil i ganser.
Mae’r Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Damian Walford Davies, Cynorthwyydd Llyfrgell, Siân McCarthy,a thîm o 15 o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ymhlith y rheiny fydd yn rhedeg ar gyfer #TeamCardiff.
Dyma a ddywedodd Greg Spencer, Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu & Phennaeth Codi Arian yn adran Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol: "Anhygoel o beth yw gweld y fath ymroddiad a dyfalbarhad gan staff y Brifysgol, gan fod llawer ohonyn nhw wedi penderfynu rhedeg yn yr Hanner Marathon cyn y pandemig. Drwy ymgymryd â'r her hon, maen nhw’n helpu i godi arian sy’n hanfodol ar gyfer ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd yn siŵr o drawsnewid bywydau er gwell.
Eleni hefyd yw'r tro olaf y bydd y Brifysgol yn noddi teitl y ras. Dechreuodd y bartneriaeth rhwng Run 4 Wales a'r Brifysgol chwe blynedd yn ôl. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae ymchwil y Brifysgol wedi ystyried effaith y ras o ran yr economi a theithio ; wedi helpu i lansio Cynllun Gweithredu Gwyrdd i sicrhau bod cynaliadwyedd wrth wraidd y digwyddiad; ac wedi trin a thrafod pam y bydd menywod yn rhedeg yn ogystal â'r rhwystrau sy'n ymwneud â chyfranogiad.
Dyma a ddywedodd yr Athro Damian Walford Davies: “O'r cychwyn cyntaf, roedd yn amlwg bod gwerthoedd Run 4 Wales yn cyd-fynd â gwerthoedd Prifysgol Caerdydd, gan fod dau sefydliad sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ac sydd eisiau wneud gwahaniaeth yn dod at ei gilydd.
“Rydyn ni wedi defnyddio'r bartneriaeth yn gyfrwng hynod effeithiol ar gyfer nifer o fentrau pwysig ac rydyn ni’n falch o fod wedi denu dros 1,300 o redwyr yn Nhîm Caerdydd, gan godi mwy na £250,000 ar gyfer ymchwil hanfodol ym maes iechyd meddwl, niwrowyddoniaeth a chanser.
“Mae'r cyllid wedi galluogi ein hymchwilwyr i gyflymu darganfyddiadau sy'n newid bywydau er mwyn gwella dulliau atal, diagnosis a thriniaeth ar gyfer ystod eang o gyflyrau.
Dyma a ddywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: “Mae ein cysylltiad â Phrifysgol Caerdydd yn un arbennig ac nid yw erioed wedi bod yn gytundeb nawdd traddodiadol, ond yn hytrach yn berthynas waith effeithiol i raddau helaeth iawn.
“Uchafbwynt inni fu’r elfen ymchwil, gan fod academyddion wedi neilltuo amser i ymchwilio i themâu ehangach y digwyddiad, gan gynnwys ymddygiad y rhedwyr, y manteision economaidd (£2.5 miliwn y flwyddyn) a chynaliadwyedd.
“Mae hyn wedi caniatáu inni gloddio'n ddyfnach i allbynnau Hanner Marathon Caerdydd ond ar ben hynny, mae wedi llywio cyfeiriad nifer o strategaethau, yn enwedig ym maes cynaliadwyedd lle mae gennym nodau uchelgeisiol i wella ein perfformiad amgylcheddol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae ymchwil o'r fath wedi gwella ein dealltwriaeth ac wedi agor cwr y llen ar bynciau megis llwybrau rhedeg diogel i fenywod ac yn fwy diweddar y cysylltiad rhwng ymarfer corff a chynnal lles personol.
“Mae'r chwe blynedd diwethaf wedi bod yn enghraifft o gydweithio corfforaethol ar ei orau.”
Yn ystod penwythnos y ras, bydd Prif Adeilad y Brifysgol yn cael ei oleuo'n las i nodi lliwiau ymgyrch #DewisDyHun yr hanner marathon. Mae'r ymgyrch yn annog pobl i wneud eu gorau glas, gan fyfyrio ar bwysigrwydd gofalu amdanyn nhw eu hun a phobl eraill, yn feddyliol ac yn gorfforol. Ysbrydolwyd yr ymgyrch gan dîm ymroddedig a hynod lwyddiannus o arbenigwyr yn y Brifysgol.