Ewch i’r prif gynnwys

Are you ok?

1 Chwefror 2022

Hand showing ok symbol against yellow background

‘Wyt ti’n iawn?’ oedd testun Sesiwn Hysbysu dros Frecwast diweddar a gynhaliwyd gan gyn bêl-droediwr rhyngwladol Cymru, Neville Southall.

Mae Neville yn eiriolwr dros ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru a thu hwnt, gan ysgrifennu’n helaeth a gwneud llawer o gyflwyniadau ar y mater. Yn ystod y sesiwn, ymunodd yr Athro Carolyn Strong â Neville i sgwrsio am ei agwedd tuag at iechyd meddwl, a'r tebygrwydd rhwng rhedeg tîm pêl-droed a rhedeg busnes.

Drwy gydol y sesiwn, buon nhw’n trafod pynciau gan gynnwys meithrin cydberthnasau mewn sefydliadau, sut i annog pobl i ofyn am help a beth y gellir ei wneud mewn ysgolion i gefnogi plant.

Agorodd yr Athro Strong y sesiwn, gan gyflwyno cred Neville mewn 'peidio â phoeni gormod am yfory a pheidio â chynllunio unrhyw beth yn fanwl.' Aeth ymlaen i ddweud: “rydym yma heddiw i siarad am yr agwedd bwysicaf ar redeg busnes da: gweithwyr y busnes hwnnw.”

Dechreuodd Neville wrth fynd i'r afael â'r problemau yn y ffyrdd y mae sefydliadau a busnesau'n mynd i'r afael â iechyd meddwl: “Mae iechyd meddwl yn deillio o'r berthynas sydd gennych chi gyda phobl. Mae'n fater o adnabod y person hwnnw, gwybod pan maen nhw'n dweud eu bod yn ‘iawn’, beth mae'r ‘iawn’ hwnnw'n ei olygu mewn gwirionedd.”

Mae'n debyg fod gennym broblem wirioneddol yn y wlad hon o ran dweud ein bod ni’n ei chael hi'n anodd. Mae'n debyg fod gennym broblem wirioneddol o ran dweud bod angen help arnom.

Neville Southall

Yn ystod y sesiwn, bu Neville yn eirioli dros fwy o hyfforddiant ar gymorth gydag iechyd meddwl mewn sefydliadau a gweithio'n agos gydag elusennau iechyd meddwl. Soniodd hefyd am bwysigrwydd rhoi cymorth i'r rhai mewn swyddi uwch a sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi mewn strategaethau ymdopi ar gyfer ymdopi â straen.

Roedd y pynciau trafod hefyd yn cynnwys iechyd meddwl dynion, pwysau gweithio gartref, a strategaethau ymdopi.

Gwyliwch recordiad llawn o'r digwyddiad.

Mae Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.