Aelwydydd incwm isel a gwasanaethau cyhoeddus i deimlo'r wasgfa yn sgil chwyddiant uwch
24 Mawrth 2022
Nid yw Datganiad y Gwanwyn y DG yn darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer aelwydydd sy’n cael eu taro waethaf nac i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rhag pwysau chwyddiant cynyddol, yn ôl dadansoddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.
Mae ymchwilwyr o brosiect Dadansoddi Cyllid Cymru wedi cyhoeddi eu dadansoddiad o gyhoeddiadau'r Canghellor a'u goblygiadau i Gymru. Dyma'r prif ganfyddiadau:
- Cyhoeddodd y Canghellor doriadau treth a fydd yn darparu cymorth i aelwydydd ar draws y dosraniad incwm i helpu gyda chostau byw. Fodd bynnag, nid yw'r mesurau'n targedu'r aelwydydd gyda’r incymau isaf, gan eu bod yn elwa llai o'r penderfyniad i leihau’r dreth tanwydd a'r cynnydd yn y trothwy yswiriant gwladol.
- Bydd aelwydydd Cymru £315 y flwyddyn yn waeth eu byd yn sgil cynnydd mewn prisiau ynni a threthi, hyd yn oed ar ôl i’r mesurau a gyhoeddwyd ddoe ac ym mis Chwefror gael eu rhoi ar waith. Aelwydydd yn y degwm incwm tlotaf yng Nghymru fydd yn gweld yr ergyd fwyaf i'w cyllid. Caiff y sefyllfa ei gwaethygu gan y gostyngiad o fwy na 4% mewn termau real i werth budd-daliadau oedran gweithio, credyd pensiwn a phensiwn y wladwriaeth.
- Mae twf yn y gyfradd chwyddiant wedi dileu 16% o'r cynnydd real yng ngwariant dydd-i-ddydd Llywodraeth Cymru erbyn 2024-25, ac nid oes unrhyw gyllid pellach wedi’i gyhoeddi. Bydd hyn yn golygu gwasgfa go iawn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a gweithwyr y sector cyhoeddus yn ystod cyfnod o bwysau sylweddol yn sgil Covid-19.
- Roedd rhywfaint o newyddion da i Lywodraeth Cymru yn asesiad diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o drethi datganoledig. Cafodd y rhagolygon o refeniw’r trethi datganoledig eu cynyddu unwaith eto, sy’n awgrymu efallai y bydd gan Lywodraeth Cymru £175 miliwn i’w wario yn 2024-25 yn ychwanegol i’r hyn y mae’n bwriadu ei wario ar hyn o bryd. Gan gynnwys cysoniadau rhagamcanol, sy’n cywiro unrhyw wallau yn y rhagolygon a wnaed mewn blynyddoedd blaenorol, gallai cyllideb Cymru fod ar ei hennill o bron i hanner biliwn o bunnoedd erbyn 2024-25 yn sgil datganoli trethi.
Dywedodd Cian Siôn, cydawdur y papur briffio:
“Wrth i brisiau godi a lefelau incwm gwympo mewn termau real, roedd y Canghellor dan bwysau sylweddol i gyhoeddi mesurau pellach i gynorthwyo cartrefi gyda chostau byw. Ond drwy ddewis toriadau treth yn hytrach na mesurau wedi’u targedu, ychydig iawn o gymorth ychwanegol oedd ar gael i’r rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw. Mae’r penderfyniad i beidio cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant eleni yn hynod o siomedig.”
Ychwanegodd Guto Ifan:
“Wrth i chwyddiant gynyddu, mae setliad grant bloc Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd nôl ym mis Hydref bellach yn edrych yn llawer llai hael. Bydd pwysau chwyddiant ar wasanaethau cyhoeddus yn cael ei ddylanwadu gan y setliadau cyflog fydd yn cael eu penderfynu yn ddiweddarach eleni – gallai twf araf mewn cyflogau gael effaith andwyol ar recriwtio a chadw staff yn ystod yr adferiad o Covid-19.
“Mae’r rhagolygon ar gyfer refeniw datganoledig yn parhau i wella, a allai rhoi hwb i bŵer gwario Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, rhagamcanion yn unig yw’r rhain, sydd o reidrwydd yn ansicr.”