Lansio grŵp Llais y Rhiant Caerdydd i gynyddu nifer y disgyblion mewn cymunedau lleol sy’n mynd i’r brifysgol
24 Mawrth 2022
Mae grŵp rhieni yn cael ei lansio'r wythnos hon i gynyddu nifer y disgyblion lleol sy’n mynd i’r brifysgol
Menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a The Brilliant Club, elusen yn y DU yw Llais y Rhiant, Caerdydd.
Gwahoddwyd rhieni o Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Uwchradd Cathays ac Ysgol Uwchradd Willows i gymryd rhan yn y prosiect. Mae'r ysgolion hyn mewn ardaloedd lle mae canran y bobl ifanc sy'n mynd i'r brifysgol yn is na chyfartaledd Cymru. Ledled Cymru, aeth 31% o bobl ifanc 18 oed i'r brifysgol yn 2020. Ond dim ond 21.3% o bobl ifanc yn Nhremorfa a Phengam Green sy'n mynd i'r brifysgol erbyn eu bod yn 19 oed. Yn yr un modd, yng Ngorllewin Trelái y ffigur yw 23.4%.
Bydd sesiynau hyfforddi, cynghori ac arwain yn anelu at rieni nad ydyn nhw hwyrach yn teimlo'n gyfforddus wrth ymwneud â system dderbyn y brifysgol, gan gynnwys y rheiny nad ydyn nhw wedi bod i'r brifysgol eu hunain.
Dyma a ddywedodd Venice Cowper, Rheolwr Ehangu Cyfranogiad ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydyn ni wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda The Brilliant Club i lansio Llais y Rhiant Caerdydd, sy'n gysylltiedig â nod y Brifysgol o wella’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl sy’n byw yn ein cymunedau lleol. Bydd rhieni'n sbarduno nodau'r rhwydwaith, gan ddefnyddio ein harbenigedd a'n cefnogaeth i fynd i'r afael â'r heriau neu'r rhwystrau posibl i addysg uwch.
Bydd yn cyfarfod unwaith bob chwe wythnos dros gyfnod o flwyddyn dan arweiniad ymchwilydd PhD lleol a hyfforddwyd gan Citizens UK ym maes trefnu digwyddiadau cymunedol. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf bydd digwyddiad dathlu i rieni a'u teuluoedd i ddathlu’r hyn a gyflawnwyd ganddyn nhw.
Dyma a ddywedodd Jimmy Pickering, Pennaeth Cymunedau Yn The Brilliant Club: "Yn The Brilliant Club, rydyn ni'n gwybod pa mor hanfodol yw rhieni a gofalwyr yn addysg eu plant. Nod Llais y Rhiant yw gweithio gyda rhieni a gofalwyr fel eu bod yn gallu cefnogi eu plant i gael y cyfleoedd y maen nhw’n eu haeddu.
"Mae pob cymuned yn wahanol, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld pa heriau addysgol y mae aelodau Llais y Rhiant Caerdydd yn penderfynu eu bod eisiau mynd i'r afael â nhw. Dylai eu hymgyrch helpu pobl ifanc yn Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Uwchradd Willow, a ledled Caerdydd yn fwy cyffredinol, i gael cyfle tecach i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n newid bywydau sy'n codi o ganlyniad i fynd i’r brifysgol."
Yn y DU heddiw, mae graddedigion o'r prifysgolion mwyaf cystadleuol yn fwy tebygol o gael gyrfaoedd proffesiynol a chael cyfraddau uwch o foddhad bywyd. Ar gyfartaledd byddan nhw’n ennill £10,000 yn fwy y flwyddyn na'u cyfoedion. Ond nid yw’r gallu i gyrchu’r cyfleoedd hyn sy'n newid bywydau yn gyfartal.
Mae'r Sefydliad Gwaddolion Addysgol (Education Endowment Foundation) yn amcangyfrif y gall ymgysylltu â rhieni helpu plant a phobl ifanc i wneud, ar gyfartaledd, cynnydd ychwanegol o 4 mis yn eu haddysg, ac y bydd yr effaith amlycaf yn achos myfyrwyr â chyrhaeddiad is blaenorol a myfyrwyr iau6.
Mae Llais y Rhiant yn cynnig hyfforddiant i rieni a gofalwyr fel y gallant sicrhau cyfleoedd i'w plant a sicrhau eu bod yn cael cyfle teg i lwyddo ym myd addysg a thu hwnt. Mae grwpiau eraill Llais y Rhiant wedi sicrhau diwrnodau agored pwrpasol a chludiant i brifysgol Rhydychen, Caergrawnt a Chaerlŷr, wedi derbyn hyfforddiant ar gyllid myfyrwyr, ac wedi cael bwrsariaethau i fynd i ysgolion haf preifat ar gyfer eu plant.