Campws sy’n gyfeillgar i ddraenogod
21 Mawrth 2022
Mae Prifysgol Caerdydd wedi’i henwi’n Gampws Cyfeillgar i Ddraenogod i gydnabod ymdrechion staff a myfyrwyr i wneud y campws yn gynefin gwell i’r rhywogaeth.
Dyfarnodd Campws Cyfeillgar i Ddraenogod – ymgyrch genedlaethol – yr achrediad Efydd i’r Brifysgol yn gynharach eleni.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae grŵp o staff a myfyrwyr wedi gweithio’n galed i greu corneli bywyd gwyllt sy’n cynnwys pentyrrau o foncyffion a dail, a chytiau i drychfilod a draenogod. Maen nhw hefyd wedi cynnal sesiynau codi sbwriel rheolaidd, ymgyrchoedd addysg, sgyrsiau â phlant ysgolion cynradd ac arolygon o ddraenogod.
Dyma a ddywedodd Dr Mafalda Costa o Ysgol y Biowyddorau sy’n arwain y grŵp: “Roedd hon yn flwyddyn werth chweil go iawn, ac ni allwn ni fod yn fwy bodlon ein byd o ran yr hyn mae’r tîm wedi’i gyflawni. Roedd cyfraniad ein gwirfoddolwyr yn hollbwysig i’r ymgyrch, ac ar draws y campws roedd ein cydweithwyr yr un mor frwd â ni yn ein hymgyrch i helpu draenogod.
“Mae rhagor o waith ar y gweill i sicrhau bod draenogod bob amser yn gallu cyrraedd ffynonellau dŵr ac i osod mwy o gytiau i ddraenogod ar dir y campws. Rydyn ni hefyd yn gweithio tuag at y garreg filltir nesaf, sef yr achrediad Arian.”
Yn ystod Wythnos Cynaliadwyedd flynyddol y Brifysgol (21-25n Mawrth 2022), gall staff a myfyrwyr wybod rhagor am y prosiect a sut maen nhw’n gallu cymryd rhan a chefnogi’r grŵp i ennill yr achrediad Arian.
Ychwanegodd Mafalda: “Rydyn ni wedi cynllunio cymaint ar gyfer y gwanwyn gan gynnwys arolygon o ddraenogod gan ddefnyddio twneli olion traed a chamerâu bywyd gwyllt. Byddwn ni hefyd yn casglu sbwriel, yn codi arian, yn cynyddu ein gwaith gyda chymuned ac ysgolion Caerdydd, yn gweithio gyda thîm Ystadau'r Brifysgol i wneud ardaloedd gwyrdd yn fwy diogel i ddraenogod a chynyddu nifer yr ardaloedd dim torri gwair, plannu coed a blodau gwyllt. Mae digon i’w wneud a bydden ni wrth ein boddau pe bai mwy o staff a myfyrwyr yn cymryd rhan.”
Cynhelir sgwrs am Gampws sy’n gyfeillgar i Ddraenogod ddydd Mercher 23 Mawrth rhwng canol dydd a 2pm. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb ac ar-lein a gallwch chi gadw eich lle yma.