Llwyddiant myfyrwyr yn y Gwobrau Cyflogadwyedd Cenedlaethol
16 Mawrth 2022
Mae dau o fyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd wedi'u cydnabod am lwyddo mewn lleoliad gwaith ac interniaeth yn y Gwobrau Cyflogadwyedd Cenedlaethol i Israddedigion yn Llundain.
Enwebwyd Georgia Coombs a Wiktoria Janiak, sy’n astudio rhaglen rheoli busnes yr ysgol, ar gyfer Gwobr yr Intern Gorau, a Georgia a’i henillodd. Enillodd Rakshanda Khaunte, sydd ym mhedwaredd flwyddyn rhaglen rheoli busnes yr ysgol, wobr Cyfraniad Gorau Myfyriwr at Gyflogwr Bychan neu Ganolig.
Dewiswyd yr enillwyr am eu cyfraniadau eithriadol yn y cwmnïau lle roedden nhw’n gweithio.
Meddai Georgia, a dreuliodd interniaeth yn rôl gweithredwr marchnata i gwmni Yoello: "Roedd yn brofiad syfrdanol ond anhygoel pan enillais y wobr. Rwy’n falch iawn o’r gamp ac yn sylweddoli bellach pa mor ddyfal roeddwn i wedi gweithio yn ystod cyfnod anodd iawn i fyfyrwyr. Roedd yn wych cael cydnabyddiaeth am hynny."
Yn ei hinterniaeth, cynyddodd Georgia yr ymgysylltu â chyfryngau cymdeithasol y cwmni, megis Instagram a LinkedIn, o bedair gwaith. Lluniodd a chyflwyno gwobrau mewnol newydd i’r cwmni hefyd, gan ei helpu i gryfhau ei feddylfryd a lledaenu rhagor o wybodaeth ymhlith y staff.
“Rwy’n gryf o’r farn y dylai myfyrwyr busnes gael profiad trwy waith. Mae’n bwysig iawn dangos profiad ar eich CV wrth ymgeisio am swydd neu le mewn cynllun i raddedigion. Mae marchnad y swyddi’n fwyfwy cystadleuol, a byddwch chi mewn sefyllfa gryfach o ganlyniad i gael profiad o weithio.”
"Trwy weithio ymhlith pobl broffesiynol, bydd cyfle i feithrin sawl math o fedrau cyn pen fawr o dro. Boed reoli tîm neu gyflwyno syniadau, bydd y medrau a ddysgais yn Yoello gyda fi drwy gydol fy ngyrfa broffesiynol."
Cyfraniad Gorau Myfyriwr at Gyflogwr Bychan neu Ganolig.
Enillodd Rakshanda Khaunte ei gwobr am ei chyfraniad i B:Live, cwmni twristiaeth sy'n cynnig teithiau e-Bike yn yr India. Dyma’r ail waith mae un o fyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd wedi ennill gwobr Cyfraniad Gorau Myfyriwr i Gyflogwr Bychan neu Ganolig - William Partridge enillodd y wobr newydd yn 2020.
Yn ystod cyfnod Rakshanda gyda'r cwmni, arweiniodd ymgyrchoedd marchnata dylanwadol yn ogystal â llunio fideos, trefnu sesiynau tynnu lluniau a helpu i hel busnes newydd. At hynny, cychwynnodd hi sioeau teithiol a gyfrannodd £20,000 y mis at incwm y cwmni.
Ynglŷn â’i llwyddiant, meddai Rakshanda: “Mae’n anrhydedd mawr imi ennill y wobr yma am gyflawni cymaint o waith yn ystod y flwyddyn dreuliais gyda’r cwmni. A minnau’n fyfyriwr o dramor ac yn ferch liw ei chroen, mae’r clod ychwanegol yma wedi rhoi hwb mawr i’m hyder. Rwy’n falch iawn o wydnwch y myfyrwyr i gyd a’r gwaith gyflawnon ni drwy gydol cyfnod ansicr.”
"Byddwn yn argymell yn gryf y dylai myfyrwyr dreulio cyfnod ym myd gwaith. Dyma'r profiad mwyaf gwerthfawr yn y brifysgol o bell ffordd i mi. Byddwch chi’n gwybod ac yn deall cymaint o ganlyniad i gael profiad o weithio."
Cyflawniad rhyfeddol
“Mae'r llwyddiant yn dangos pa mor frwd mae’n myfyrwyr yn cymryd rhan yn ein rhaglenni lleoliadau ac interniaethau, a’u heffaith sylweddol ar y cwmnïau sy’n eu noddi mewn cyfnod mor fyr.”
"Mae’n adlewyrchu cymorth a chynghorion ardderchog ein staff dros faterion cyflogadwyedd, hefyd."
Meddai Alex Hicks, Rheolwr Lleoliadau ym Ysgol Busnes Caerdydd: “Rydyn ni’n falch iawn bod dau o dri enillydd gwobrau cenedlaethol wedi dod o Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd. Mae'r gwobrau'n ffordd wych o gydnabod a dathlu llwyddiant ein myfyrwyr lleoliad a'u heffaith fuddiol ar gwmnïau ledled y byd."
Mae’r gystadleuaeth ar waith ers 12 mlynedd bellach, gan wobrwyo a dathlu rhagoriaeth cyflogwyr, myfyrwyr a phrifysgolion trwy’r deyrnas gyfan ynghylch profiad israddedigion o weithio.
Gwobrau Ysgol Busnes Caerdydd
Roedd Georgia a Rakshanda yn fuddugol yng nghystadleuaeth Ysgol Busnes Caerdydd yn ddiweddar hefyd - enillodd y naill wobr Intern y Flwyddyn a’r llall un am Gyfraniad Gorau Myfyriwr i Gyflogwr Bychan a Chanolig ei Faint.
Enillodd Samantha Best wobr Intern y Flwyddyn hefyd, am ei gwaith yn swyddog gwasanaethau a gwerthu yn ystod cyfnod gyda chwmni SAP. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyflawnodd Samantha amryw orchwylion megis rhoi prosesau newydd ar waith, gwella’r cydweithio ymhlith timau ac ennill dros 80 o gytundebau gwerth hyd at £12 miliwn.
Meddai cynrychiolydd SAP: "Mae Samantha wedi bod yn ymgeisydd rhagorol ers dechrau ei hinterniaeth. Dysgodd am brosesau a dulliau busnes gwasanaethau a gwerthu yn gyflym iawn ac roedd hi’n ddigon hyderus i ysgwyddo unrhyw orchwyl a bod yn gyfrifol amdano."
Cyfleoedd lleoliad yn Ysgol Busnes Caerdydd
Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn cynnig cynghorion i’n myfyrwyr trwy staff materion gyrfaoedd a lleoliadau ac mae cyfleoedd i weithio’n hyblyg yn ôl amserlenni, bwrw tymor dros yr haf a threulio blwyddyn gyda chyflogwr.
Cysylltwch ag Alex Hicks, Rheolwr Lleoliadau Ysgol Busnes Caerdydd i ddysgu rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael.