Y Sefydliad Materion Cymreig yn ymuno ag ‘uwchlabordy’ y gymdeithas
17 Mawrth 2022
Mae melin drafod annibynnol flaenllaw Cymru yn ymuno â sbarc|spark – 'uwchlabordy’ cymdeithasol newydd y DU.
Mae'r Sefydliad Materion Cymreig (IWA) yn dwyn ynghyd arbenigwyr o bob cefndir i lunio syniadau uchelgeisiol a gwybodus sy'n sicrhau ymrwymiadau gwleidyddol i wella democratiaeth, gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi.
Mae'r Sefydliad Materion Cymreig yn ymuno â Nesta, Bipsync a RedKnight fel partneriaid newydd yn yr adeilad, a agorodd ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth).
Dywedodd y Cyfarwyddwr Auriol Miller : "Rydym yn falch iawn o fod yn ymuno â chymuned sbarc|spark. Fel sefydliad annibynnol, bydd cydleoli yn yr adeilad newydd gwych hwn yn ein helpu i fod yn agos at ddadansoddiad a barn arbenigol, gan ein helpu i feithrin cydberthnasau cydweithredol i ddatblygu, ysgogi a lledaenu ein gwybodaeth a'n hymchwil o fewn yr ecosystemau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae arbenigedd cymdeithasol a pholisi Caerdydd wedi helpu i lunio allbwn y IWA ers ei sefydlu 35 mlynedd yn ôl, ac mae uwch academyddion Caerdydd yn eistedd ar ei fwrdd ymddiriedolwyr ar hyn o bryd. Bydd y symudiad i sbarc|spark yn cryfhau ein cydweithrediad ymhellach wrth i ni weithio gyda'n gilydd i lunio polisïau cyhoeddus sy'n mynd i'r afael ag amrywiaeth gymhleth o heriau cymdeithasol dybryd yng Nghymru."
Wedi ei ymroi i wneud Cymru'n lle gwell, bydd y felin drafod a'r elusen yn cymryd lle ochr yn ochr â 400 o ymchwilwyr gwyddor gymdeithasol arbenigol, sydd gyda'i gilydd, yn ffurfio SPARK – Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol – sydd wedi'i leoli yn yr adeilad. Mae 12 canolfan ymchwil, grwpiau a sefydliadau gwyddorau cymdeithasol SPARK yn arbenigo mewn mynd i'r afael â heriau cymdeithasol, o iechyd plant a gordewdra i newid yn yr hinsawdd a throsedd a diogelwch.
Dywedodd yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr, SPARK: "Rydym yn falch iawn o groesawu'r Sefydliad Materion Cymreig i’n cymuned sbarc|spark. Mae eu cydweithrediad dros y blynyddoedd â chanolfannau ymchwil a sefydliadau SPARK eisoes wedi profi i fod yn llwyddiant mawr – gan gynnwys gwaith ar yr economi sylfaenol yng Nghymru, y Cwricwlwm i Gymru, a'r adnodd gwerthfawr, Deall Lleoedd Cymru. Rydym yn gyffrous iawn am y cyfleoedd y bydd bod yn aelod o SPARK yn eu cynnig i gydweithio ar weithgareddau ymchwil ac effaith yn y dyfodol."
Bydd ymchwilwyr SPARK yn rhannu mannau gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i greu, profi a meithrin syniadau newydd a all helpu i adeiladu cymdeithas well.
Ac iddo arwynebedd llawr o 12,000 metr sgwâr ar draws chwe llawr, gan gynnwys unedau masnachol a labordai ar gyfer cwmnïau deillio a busnesau newydd yn Arloesedd Caerdydd@sbarc, dyma’r lle amlwg i gydweithio ym Mhrifysgol Caerdydd a’r ganolfan arloesi fwyaf o’i fath yng Nghymru.
I gael gwybod rhagor am weithio gyda ni, ebostiwch SPARK@caerdydd.ac.uk