Nid yw biliwn o ddoleri'n ddigon i atal cwymp yn niferoedd yr orangutan
17 Mawrth 2022
Er gwaethaf buddsoddiad enfawr, mae astudiaeth newydd yn dangos bod niferoedd yr orangutan yn dal i ostwng, gan arwain at alwadau am strategaethau cadwraeth wedi'u targedu'n well
Dyw pethau ddim yn edrych yn dda i'r orangutan. Mae tair rhywogaeth yr epa coch eiconig, sy'n byw yn Indonesia a Malaysia yn unig, wedi'u dosbarthu fel rhai sydd mewn perygl difrifol. Mae hyn yn golygu eu bod yn wynebu difodiant yn fuan iawn os na chânt well amddiffyniad.
Dangosodd astudiaeth newydd oedd yn defnyddio data o Ganolfan Maes Danau Girang (DGFC) Prifysgol Caerdydd fod rhai gweithgareddau cadwraeth yn well na'i gilydd wrth geisio achub yr orangutan, yn ogystal â bod yn fwy cost effeithiol.
Dangosodd astudiaeth newydd oedd yn defnyddio data o Ganolfan Maes Danau Girang (DGFC) Prifysgol Caerdydd fod rhai gweithgareddau cadwraeth yn well na'i gilydd wrth geisio achub yr orangutan, yn ogystal â bod yn fwy cost effeithiol.
Dywedodd yr Athro Benoit Goossens, Cyfarwyddwr DGFC: "Rydym ni'n argymell bod ein canfyddiadau’n cael eu defnyddio wrth gynllunio strategaethau cyllid a pholisi yn y dyfodol ar gyfer cadwraeth yr orangutan.
"Credwn y byddai'n fuddiol dros ben i'r orangutan a rhywogaethau eraill pe bai modd cydlynu data ar eu dosbarthiad a'u dwyseddau, ynghyd â gwybodaeth fanwl am raglenni cadwraeth, yn dryloyw ac yn ganolog, gan sicrhau eu bod ar gael yn gyhoeddus, ac yn cael eu diweddaru'n rheolaidd gan sefydliadau cyfranogol sy'n gweithio ym maes cadwraeth rhywogaethau."
Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn y cyfnodolyn Current Biology, ac roedd yn defnyddio data ar fuddsoddiadau cadwraeth yr orangutan i asesu gwariant ar wahanol strategaethau, gan gynnwys diogelu a rheoli coedwigoedd, patrolio a gorfodi'r gyfraith, ac achub ac ailsefydlu. Amcangyfrifodd yr ymchwilwyr i ba raddau roedd pob un o'r gweithgareddau hyn yn fuddiol i boblogaethau orangutan lleol o'u cymharu â pheidio â gweithredu o gwbl.
Esboniodd Dr Truly Santika, prif awdur y papur, sail resymegol yr astudiaeth: "Hyd y gwyddom, does neb erioed wedi gwneud dadansoddiad llawn o gostau a buddion gwahanol weithgareddau cadwraeth i ganfod y tebygolrwydd y bydd rhywogaeth warchodedig yn goroesi. Gellid cymhwyso dadansoddiadau tebyg i lawer o rywogaethau prin. O ystyried yr angen dybryd i warchod bioamrywiaeth, mae'n bwysig fod dadansoddiadau cost-effeithiolrwydd o'r fath yn cael eu datblygu er mwyn gwneud y gorau o unrhyw fuddsoddiad sy’n defnyddio doleri cadwraeth cyfyngedig".
Dywedodd un o'r ymchwilwyr sy'n cyfrannu, yr Athro Meijaard o Brifysgol Caint: "Y peth pwysig am yr astudiaeth hon yw ei bod yn dangos efallai nad yw'r hyn rydym ni'n buddsoddi ynddo yn arbennig o dda ar gyfer sicrhau goroesiad yr orangutan. Os ydym ni am achub yr orangutan rhag difodiant, mae'r astudiaeth wir yn dangos fod angen i ni fuddsoddi yn hanfodion cadwraeth natur, sef diogelu cynefinoedd rhywogaethau a gweithio gyda'r cymunedau lleol i leihau bygythiadau fel lladd a chipio."
Dangosodd yr astudiaeth mai strategaethau diogelu cynefinoedd, patrolio ac ymgysylltu â'r gymuned oedd â'r enillion gorau ar unrhyw fuddsoddiad ar gyfer cynnal poblogaethau orangutan. Canfuwyd bod adfer cynefin yr orangutan drwy ailgoedwigo yn ddrud iawn o'i gymharu â diogelu a rheoli coedwigoedd.
Roedd achub a rhyddhau orangutaniaid oedd wedi'u cipio'n isel o ran cost-effeithiolrwydd gan nad oedd hyn yn cael fawr o effaith ataliol ar ladd a masnachu'r orangutan yn anghyfreithlon, ac nad oedd chwaith yn cynyddu poblogaethau gwyllt o fewn yr ystodau rhywogaeth cyfredol.
Nododd Julie Sherman, ymchwilydd arall o Wildlife Impact oedd yn cyfranogi: "Mae ailsefydlu a rhyddhau'n arf pwysig ar gyfer adfer rhywogaethau sydd ag ychydig o unigolion yn unig ar ôl yn y gwyllt. Os byddwn ni'n gweithredu nawr, gallwn ddiogelu orangutaniaid gwyllt yn eu cynefinoedd naturiol, sy'n llawer mwy cost-effeithiol na cheisio adfer eu poblogaethau ar ôl iddynt gael eu lladd, eu cipio neu eu dadleoli o'u cartrefi".
Mae costau gweithgareddau cadwraeth yr orangutan yn amrywio yn ôl rhanbarth. Ym Malaysia, mae prisiau tir a chostau llafur yn uwch o lawer nag yn Indonesia. Mae hyn yn codi prisiau gweithgareddau sy'n galw am gaffael tir, fel sefydlu ardaloedd gwarchodedig, neu sy'n cynnwys llawer o bobl, fel patrolio.
Mae Canolfan Maes Danau Girang yn gyfleuster ymchwil a hyfforddi, sydd wedi'i leoli yn Borneo Malaysia, ac fe’i rheolir ar y cyd gan Adran Bywyd Gwyllt Sabah ac Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.