Ewch i’r prif gynnwys

Nesta’n ymuno â theulu sbarc|spark

18 Mawrth 2022

Bydd arbenigwyr o Nesta yn ymuno â sbarc|spark – canolfan newydd ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n galluogi pobl dalentog i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol.

Mae Nesta’n gweithio gyda phartneriaid ar draws y diwydiant, y cyhoedd, y trydydd sector a’r byd academaidd er mwyn nodi, profi a phwyso a mesur syniadau newydd ym meysydd cynaliadwyedd, dechrau tecach i blant ac iechyd gwell i bawb.

Bydd staff y sefydliad arloesedd yn gweithio o dan yr un to ag oddeutu 400 o ymchwilwyr ym maes y gwyddorau cymdeithasol.

Bydd y newid mewn lleoliad yn galluogi tîm Nesta Cymru i ymchwilio i rai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cymdeithas a nodi sut i fynd i’r afael â nhw, a hynny drwy fanteisio ar allu academaidd a defnyddio cyfleusterau arloesi datblygedig yr adeilad i lywio rhaglenni a pholisïau newydd.

Dywedodd Rob Ashelford, Pennaeth Nesta Cymru, fod y newid mewn lleoliad yn adeiladu ar bartneriaeth gydweithredol hirsefydlog.

“Mae arbenigwyr a chyfleusterau gwych sbarc|spark yn ei wneud yn lle perffaith i dîm Nesta Cymru. Mae ein harbenigwyr mewn arloesi wedi gweithio ochr yn ochr ag academyddion Prifysgol Caerdydd ers blynyddoedd lawer i gefnogi a datblygu gwahanol ddulliau o fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu cymdeithas. Wrth i ni ddatblygu a gwneud gwaith yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar genadaethau, bydd ymuno â sbarc|spark yn cryfhau ymhellach ein gallu i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn y blynyddoedd sydd i ddod.”

Mae Nesta a Phrifysgol Caerdydd wedi cydweithio o’r blaen i sefydlu Y Lab ar gyfer arloesi ym maes gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o groesawu Nesta i’r teulu mewn adeilad sy’n ceisio dileu rhwystrau, gan gynnwys meithrin lles cymdeithasol ac ysgogi arloesedd drwy ysbrydoli ein hadnodd gorau: pobl.”

Agorodd sbarc|spark – y cyfleuster mwyaf o'i fath yng Nghymru – ei ddrysau ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth). Bydd yn gartref i arbenigwyr o 12 grŵp ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol sydd, fel cyfangorff, yn cael eu galw’n SBARC (Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol).

Byddant yn rhannu mannau gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i greu, profi a meithrin syniadau newydd a all helpu i adeiladu cymdeithas well.

Ac iddo arwynebedd llawr o 12,000 metr sgwâr ar draws chwe llawr, gan gynnwys unedau masnachol a labordai ar gyfer cwmnïau deillio a busnesau newydd yn Arloesedd Caerdydd@sbarc, dyma’r lle amlwg i gydweithio ym Mhrifysgol Caerdydd.

I gael gwybod rhagor am weithio gyda ni, ebostiwch SPARK@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon