Penodi arbenigwr ar Fynediad at Gyfiawnder i’r Panel Defnyddwyr Gwasanaethau Cyfreithiol
15 Mawrth 2022
Penodwyd yr Uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith, Dr Daniel Newman i’r Panel Defnyddwyr Gwasanaethau Cyfreithiol gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol.
Mae'r Panel Defnyddwyr Gwasanaethau Cyfreithiol yn gangen annibynnol o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol, rheoleiddiwr goruchwylio gwasanaethau cyfreithiol. Mae'r Panel yn cynnwys wyth aelod lleyg y cymeradwyodd yr Arglwydd Ganghellor eu penodi, a'i gylch gorchwyl yw cynrychioli buddiannau defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol, gan gynnwys busnesau bach ac elusennau, a hefyd blaenoriaethu anghenion grwpiau o ddefnyddwyr mwy agored i niwed megis y rhai â lefelau isel o lythrennedd, anableddau corfforol neu broblemau iechyd meddwl.
Mae Dr Newman yn benodiad da i'r panel gan fod ei arbenigedd ymchwil yn canolbwyntio ar fynediad at gyfiawnder, cymorth cyfreithiol a phroffesiwn y gyfraith. Mae'n dysgu yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ers 2015 ac ar hyn o bryd mae'n addysgu ar fodiwlau Trosedd, y Gyfraith a Chymdeithas, Problemau Byd-eang a Theori Gyfreithiol a Themâu mewn Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol.
Bydd Dr Newman yn dechrau ei gyfnod ar y Panel ar 14 Mawrth 2022. Dywedodd Cadeirydd y Panel Defnyddwyr, Sarah Chambers, "Rwy'n falch iawn o groesawu Daniel Newman i'r Panel. Bydd ei arbenigedd manwl o ran mynediad at gyfiawnder, diffyg cyngor, materion Cymreig, bregusrwydd, ac ystyriaethau amrywiaeth yn gwneud cyfraniad enfawr i'n hagenda dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf."
Ychwanegodd Dr Newman, "Rwy'n llawn cyffro i gael ymuno â'r Panel. Yn fy ysgolheictod, rwyf i bob amser yn ceisio hyrwyddo mynediad at gyfiawnder ac mae gweithio gyda'r Panel yn cynnig cyfle i fi gael effaith ehangach eto. Rwy'n rhannu gweledigaeth y Panel i rymuso defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol, ac rwy'n gobeithio cefnogi buddiannau defnyddwyr i sicrhau bod gwasanaethau cyfreithiol yn gweithredu mewn ffordd sy'n teimlo'n deg iddyn nhw. Ni ddylai neb gael eu heithrio o fynediad at gyfiawnder, ac rwyf i am gefnogi'r Panel i helpu i sicrhau bod gwasanaethau cyfreithiol yn gallu rhoi mynediad at gyfiawnder i bawb."
Yn fwyaf diweddar, bu Dr Newman yn gweithio ar y Cyfrifiad Cymorth Cyfreithiol gyda Catrina Denvir, Jacqueline Kinghan, Jess Mant a Sasha Aristotle; yr arolwg mwyaf o gyfreithwyr cymorth cyfreithiol a gynhaliwyd erioed yng Nghymru a Lloegr, a gaiff ei ryddhau'n fuan gan y Grŵp Ymarferwyr Cymorth Cyfreithiol. Cyfeiriwyd at ei waith ar fynediad at gyfiawnder yn seneddau Cymru a'r DU, ac mae wedi ymddangos fel arbenigwr ar fynediad at gyfiawnder ar draws ystod o sianeli a chyfryngau.