Adroddiad yn dangos nad yw dysgwyr wedi troi eu cefnau ar ieithoedd ychydig cyn iddynt wneud eu dewisiadau TGAU
15 Mawrth 2022
Mae data newydd yn dangos bod hanner o’r holl fyfyrwyr â meddwl agored i ddysgu iaith ar yr adeg y maent yn gwneud eu dewisiadau dewisol.
Roedd yr astudiaeth, a gynhaliwyd gan Brosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern (ITM) Prifysgol Caerdydd, yn gofyn am farn 5,800 o bobl ifanc ym mlynyddoedd wyth a naw yng Nghymru, ychydig cyn iddynt benderfynu pa bynciau TGAU y byddent yn eu hastudio. Dyma'r set ddata fwyaf hysbys yn y DU sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â barn dysgwyr ar astudio ieithoedd.
Mae'r canlyniadau'n dangos bod 48% o'r holl ddysgwyr a arolygwyd yn agored i ystyried astudio iaith dramor fodern ar lefel TGAU, er gwaethaf cyfartaledd cenedlaethol o 14.4%* o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn cael eu cofrestru ar gyfer TGAU iaith dramor fodern yn 2021.
Mae gwahaniaethau mawr hefyd mewn agweddau rhwng ieithoedd rhyngwladol a'r Gymraeg o’i gymharu â'r Saesneg mewn ysgolion yng Nghymru. Mae'r canlyniadau'n dangos allan o 13 o bynciau, mae ieithoedd rhyngwladol ymhlith y pynciau sy’n cael eu mwynhau leiaf, yn safle 11. Cymraeg oedd y pwnc a fwynhawyd leiaf, a’r Saesneg oedd y pwnc a fwynhawyd fwyaf.
Dechreuodd y Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern yn 2015 ac mae'n gweithio gyda 140 o ysgolion i gynyddu nifer y dysgwyr ifanc sy'n astudio ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru. Mae gwerthusiad allanol yn dangos bod rhwng 40-50% o ddisgyblion sy'n cael eu mentora fel rhan o'r fenter yn dewis astudio iaith TGAU.
Dywedodd cyfarwyddwr y prosiect, Lucy Jenkins, sy'n gweithio yn Ysgol Ieithoedd Tramor Modern Prifysgol Caerdydd: “Er bod y darlun cenedlaethol yn parhau i fod yn destun pryder mawr, mae agwedd agored dysgwyr i ieithoedd a nodir yn yr arolwg hwn yn cynnig llygedyn o obaith. Yn arbennig, mae’n cynnig cyfle i ni fanteisio ar amrywiaeth ieithyddol Cymru i gefnogi dewisiadau cadarnhaol tuag at ieithoedd rhyngwladol ar lefel TGAU.
“Fodd bynnag, mae'r canlyniadau hyn hefyd yn ein hatgoffa'n llwyr heb ymyrraeth frys, efallai na fydd yn ymarferol i ysgolion barhau i gynnig iaith ryngwladol fel dewis ar gyfer TGAU a Safon Uwch, os bydd y dirywiad presennol yn parhau. Er ein bod wedi clywed yn anecdotaidd gan athrawon am farn dysgwyr, mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r darlun cliriaf eto o agweddau dysgwyr tuag at ieithoedd mewn perthynas â meysydd pwnc eraill.
“Wrth i Gwricwlwm Cymru gael ei gyflwyno, mae'n hollbwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle i wella gwerthfawrogiad cyffredinol dysgwyr o ieithoedd — sy'n cynnwys Saesneg, Cymraeg a phynciau rhyngwladol — fel rhan bwysig o'u datblygiad personol a phroffesiynol.”
Yn ôl y data, mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn credu bod y pynciau craidd, gorfodol, yn bwysicach i'w gyrfaoedd nag iaith ryngwladol. Ac er mai Saesneg ddaeth i'r brig yn gyffredinol, dewiswyd pynciau STEM 1.3 gwaith yn fwy na phynciau’r dyniaethau a phedair gwaith yn fwy na phynciau celfyddydol.
Mae'r canfyddiadau cychwynnol hefyd yn awgrymu bod dysgwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a'r rhai y mae eu rhieni'n siarad mwy nag un iaith, yn fwy tebygol o ddewis iaith ryngwladol ar lefel TGAU.
Mae gwahaniaethau ym mhroffil dysgwyr sy'n dewis iaith ryngwladol yn parhau i fod yn amlwg, gyda dysgwyr benywaidd ddwywaith yn fwy tebygol o astudio iaith na dysgwyr gwrywaidd.
Ychwanegodd yr Athro Claire Gorrara, Arweinydd Academaidd y Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern: “Mae dysgu iaith yn cynnig cymaint i fyfyrwyr. Yn ogystal â gwella eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol, mae'n rhoi hyder iddynt, rhagolwg estynedig ac ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy tra dymunol.
“Mae ein gwaith gyda mentoriaid myfyrwyr ac ysgolion yn dangos y gwahaniaeth y gall pwyslais gwell ar ddysgu ieithoedd ei gael ar fyfyrwyr. Mae'n hanfodol bod mwy yn cael ei wneud er mwyn gweld ieithoedd fel pwnc mwy deniadol i fyfyrwyr, fel eu bod nhw'n teimlo y gallai fod yn ddewis realistig iddyn nhw.”
Bu gostyngiad o 64% yn nifer y myfyrwyr Cymraeg sy'n astudio iaith fodern ar lefel TGAU. Yn Lloegr, mae'r nifer sy'n dewis y pynciau wedi gostwng 48% dros gyfnod tebyg.
Fel rhan o'r Prosiect Mentora Ieithoedd Modern, mae mentoriaid prifysgol o bum prifysgol bartner yn cael eu hyfforddi i weithio gyda dysgwyr ym Mlynyddoedd 8 a 9 i ysbrydoli cymhelliant a chariad cynhenid tuag at ddysgu iaith a chyfathrebu rhyngddiwylliannol.
Mewn cydnabyddiaeth o’i waith, cyrhaeddodd y prosiect restr fer ar gyfer prosiect Ehangu Cyfranogiad y flwyddyn yn 2021 yng Ngwobrau Times Higher Education.
*StatsWales, 2021.