TeenTech yn dychwelyd i Gymru
15 Mawrth 2022
Mae Prifysgol Caerdydd, unwaith eto, wedi ymuno â'r elusen arobryn TeenTech i gynnal gwerth mis o ddigwyddiadau digidol, gwyddoniaeth a thechnoleg yn fyw ar-lein ar gyfer plant mewn ysgolion a phlant gartref ledled Cymru.
O'r gofod, seiberddiogelwch a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg i ddyfodol y cyfryngau ac adloniant, technoleg iechyd a gwaith dylunio gemau, bydd y myfyrwyr yn elwa o ystod eang o sesiynau rhyngweithiol sy’n cael eu cynnal gan ohebwyr gwyddoniaeth a thechnoleg adnabyddus.
Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau’n rhedeg am bedair wythnos, gan ddechrau ddydd Mawrth, 15 Mawrth. Bydd yn cael ei chefnogi gan Circle, cwmni lleol yng Nghaerdydd sy’n arbenigwr atebion, yn ogystal â Dell a SonicWall.
Bydd pob sesiwn ryngweithiol fyw yn para awr. Bydd gofyn i’r myfyrwyr ymateb yn greadigol i heriau a phrosiectau, cyn cymryd rhan mewn sesiwn adborth dilynol gydag arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd llawer o’r arbenigwyr hyn o Brifysgol Caerdydd a busnesau eraill yng Nghymru.
Gall dysgwyr iau gymryd rhan yn y rhaglen 'Dinas Yfory', sy’n gofyn iddynt weithio gyda'i gilydd i ddylunio mannau mwy caredig, diogel a chlyfar i’r dyfodol. Gall dysgwyr hŷn ganolbwyntio ar bynciau arbenigol yn rhan o’r rhaglen 'Arloesedd Byw', sy’n ymdrin â phynciau fel gwaith dylunio gemau, technoleg iechyd, dyfodol y cyfryngau ac adloniant, technoleg sy’n dod i’r amlwg, seiberddiogelwch a’r gofod.
Mae sesiwn newydd sbon o’r enw 'Sgiliau Clyfar Dinas Yfory' wedi'i chynllunio er mwyn datblygu sgiliau llythrennedd digidol, llythrennedd yn y cyfryngau a llythrennedd data’r myfyrwyr. Bydd modd iddynt gymryd rhan mewn gweithdai ychwanegol ar animeiddio yn ystod gwyliau'r Pasg, hefyd.
Cynlluniwyd i’r holl sesiynau fod yn ddifyr ac yn ysgogol a rhoi cyd-destun go iawn i ddysgu sy’n helpu i ddatblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o yrfaoedd a sut mae technoleg gyffrous newydd yn llywio pob agwedd ar ein bywydau.
Bydd cynnwys llawer o'r sesiynau’n seiliedig ar ymchwil a gwaith a wnaed ym Mhrifysgol Caerdydd, o luniadu wrth raddfa ficrosgopig i dynnu lluniau o'r gofod, ac yn cynnwys sesiwn holi ac ateb fyw wedi'i chymedroli gyda staff Prifysgol Caerdydd a chyfranwyr eraill.
Dywedodd Prif Weithredwr a chyd-sylfaenydd TeenTech, Maggie Philbin OBE: "Yn seiliedig ar lwyddiant ysgubol TeenTech Cymru y llynedd, rwy’n falch dros ben o allu gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd eto i ddatblygu a chynnal gŵyl fyw gyffrous o weithgareddau ar-lein a fydd yn dod â gyrfaoedd yn fyw i bobl ifanc yng Nghymru.
“Mae'n gyfle gwych i glywed gan dimau ymchwil y Brifysgol a chael gwybod am ddylanwad eu gwaith ar dechnolegau'r dyfodol a'r genhedlaeth nesaf. Rydym mor falch o'r sesiynau hyn, sy'n gwneud dysgu’n hwyl eto ac yn helpu myfyrwyr i weld yn glir sut mai nhw, o bosibl, yw arloeswyr y dyfodol."
Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor Gweithgarwch Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'n wych ein bod wedi gallu cryfhau ein partneriaeth â TeenTech ymhellach eleni a rhedeg rhaglen arall o weithgareddau cyffrous ac ysbrydoledig.
"Mae paratoi crewyr ac arloeswyr y dyfodol wrth wraidd cenhadaeth Prifysgol Caerdydd, ac mae TeenTech yn gyfle gwych i bobl ifanc o bob rhan o Gymru ddarganfod sut mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn berthnasol i'w bywyd a'u diddordebau eu hunain, beth bynnag fo'u cefndir."
Mae TeenTech yn elusen arobryn a sefydlwyd yn 2008 gan Maggie Philbin a Chris Dodson i helpu myfyrwyr i weld yr ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael ym maes gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg.
Gall athrawon, rhieni a myfyrwyr gael rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer cymaint o ddigwyddiadau ag y dymunant ar eu gwefan.