Bipsync yn ymuno â theulu sbarc|spark
15 Mawrth 2022
Mae'r cwmni technoleg ariannol blaenllaw Bipsync yn ymuno â chymuned sbarc|spark Prifysgol Caerdydd .
Bipsync, sy'n cynnig meddalwedd rheoli ymchwil blaenllaw, yw'r partner cyntaf i symud i mewn i adeilad newydd y Brifysgol ar gyfer ymchwil gwyddorau cymdeithasol, busnes, cwmnïau deillio a busnesau newydd.
“Rydym yn hynod gyffrous mai sbarc|spark yw cartref newydd gweithrediadau Bipsync yn y DU,” meddai Craig Marvelley, Is-lywydd Peirianneg yn Bipsync.
“Mae'n cynnig cyfle i ni gryfhau ein cysylltiadau â Phrifysgol Caerdydd a'u myfyrwyr eithriadol, ymgysylltu'n agosach â chwmnïau arloesol eraill mewn lleoliad cydweithredol, a pharhau i dyfu ein tîm mewn amgylchedd gwirioneddol ysbrydoledig.”
Gan eu bod wedi eu lleoli yn sbarc|spark, mae’r cwmni ochr yn ochr ag academyddion arbenigol o Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) yng Nghaerdydd, a darpar gydweithwyr yng nghanolfan deillio newydd y Brifysgol - Arloesedd@sbarc |spark .
Mae sbarc|spark wedi'i leoli ar Gampws Arloesedd Caerdydd, sy'n weddol agos at Abacws, cartref newydd y Brifysgol ar gyfer yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a'r Ysgol Mathemateg.
Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor: “Rydym yn falch iawn o groesawu Bipsync i'n teulu sbarc|sbarc. Mae'r cwmni'n arbenigo mewn defnyddio technolegau modern, prosesau ystwyth, a dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i yrru cyflymder, ystwythder, ansawdd ac effeithlonrwydd - gwerthoedd sy'n cyd-fynd â'n hethos ein hunain: tanio gwybodaeth, tarfu ar ddamcaniaethau a cheisio synergeddau newydd.
Mae sbarc|spark – sef cartref arloesedd Caerdydd – yn dod ag ymchwilwyr, entrepreneuriaid, busnesau newydd gan fyfyrwyr a chwmnïau deillio academaidd at ei gilydd mewn adeilad o’r radd flaenaf wrth ganol Campws Arloesedd Caerdydd.
Mae’r ganolfan, sy’n cynnwys unedau cydweithio, canolfan ddelweddu, awditoriwm a labordy saernïo, yn cynnig rhywle lle gall Cymru feithrin a datblygu syniadau mawr y dyfodol wrth i’r DU ffynnu o'r newydd ar ôl pandemig COVID-19, a cheir lleoedd penodol i fyfyrwyr sy’n entrepreneuriaid yno.
Dyma’r cyfleuster mwyaf o’i fath yng Nghymru o ran arloesedd. Mae’n ymestyn dros 12,000 o fetrau sgwâr ar draws chwe llawr, a cheir unedau masnachol a labordai ar gyfer cwmnïau deillio a busnesau newydd.
Mae'r adeilad yn dod â manteision i'r gymuned leol. Bydd y llawr gwaelod ar agor i’r cyhoedd gyda chaffi, awditoriwm hyblyg ar gyfer digwyddiadau sy’n debyg i TEDx a grisiau agored – yr ‘Oculus’ – a luniwyd i annog cydweithio a digwyddiadau cymdeithasol yn yr adeilad.