Penodi Athro Emeritws yn uwch gynghorydd ar adroddiad ar Ddemocratiaeth Ewropeaidd
15 Mawrth 2022
Ar adeg pan fo democratiaeth yn Ewrop ar flaen ein meddyliau, mae Athro Emeritws yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn Uwch Gynghorydd Arbenigol i'r Grŵp Lefel Uchel sy'n adrodd ar Ddemocratiaeth Ewropeaidd yn y Gynhadledd ar Ddyfodol Ewrop.
Bu'r Athro John Loughlin yn dysgu Gwleidyddiaeth Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd tan 2010 ac mae bellach yn rhan o'r grŵp dan gadeiryddiaeth Herman Van Rompuy, Llywydd Emeritws y Cyngor Ewropeaidd, sydd â'r dasg o gefnogi Pwyllgor Ewropeaidd y Rhanbarthau (CoR) gyda'i gyfraniad i'r Gynhadledd ar Ddyfodol Ewrop.
Cyfres o ddadleuon a thrafodaethau dan arweiniad dinasyddion yw'r Gynhadledd ar Ddyfodol Ewrop sydd wedi galluogi pobl ledled Ewrop i rannu eu syniadau a helpu i ffurfio ein dyfodol cyffredin. Mae'r gynhadledd wedi bod ar waith drwy sesiynau llawn a hyb ar-lein ers 2019 a disgwylir iddi ffurfio ei chasgliadau erbyn haf 2022.
Cyflwynwyd Adroddiad y Grŵp Lefel Uchel ar Ddemocratiaeth Ewropeaidd i'r gynhadledd ym mis Chwefror 2022 gan nodi ac asesu'r prif heriau sy'n wynebu democratiaeth heddiw, a myfyrio ar y ffordd orau o fynd i'r afael â rhai o'r rhain.
Ymhlith nifer o bwyntiau a godwyd, mae'r adroddiad yn trafod yr heriau i ddemocratiaeth yn Ewrop, gan gynnwys sut mae'r chwyldro digidol a'r cyfryngau cymdeithasol wedi newid yr amodau y caiff democratiaeth ei harfer ynddynt. Cafwyd datblygiadau cadarnhaol di-rif yn y maes gyda chyfleoedd i gyfathrebu gydag eraill a mynediad at wybodaeth i'w gweld yn ddiderfyn. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn nodi bod platfformau digidol hefyd wedi gostwng safon y drafodaeth ac wedi llenwi'r gofod â gwybodaeth anghywir, ddi-sail.
Dadleua'r adroddiad hefyd fod rhaid cryfhau democratiaeth Ewropeaidd o'r gwaelod i fyny, drwy rymuso dinasyddion, er enghraifft drwy gryfhau democratiaeth ranbarthol a lleol fel y llywodraethau sydd agosaf at y dinasyddion. Cyfeiria at y Gynhadledd ar Ddyfodol Ewrop fel enghraifft gadarnhaol o adael i ddinasyddion arwain; gan roi mwy o gyfleoedd iddynt gymryd rhan wrth bennu'r cyfeiriad y gall democratiaeth fynd iddo. Mae hefyd yn awgrymu bod cenedlaethau iau sydd wedi tyfu i fyny mewn Ewrop fwy agored a symudol lle mae arian cyffredin, twristiaeth, cyfnewidiadau diwylliannol a digwyddiadau chwaraeon cyfandirol yn safonol yn arwydd da ar gyfer dyfodol mwy gobeithiol.
Wrth siarad am ei ran yn yr adroddiad, dywedodd yr Athro Loughlin, “Roedd yn fraint fawr i mi gael bod yn rhan o'r gwaith o lunio'r adroddiad ar ddyfodol democratiaeth Ewropeaidd. Mae Ewrop ar groesffordd ar hyn o bryd ac yn myfyrio ar ei dyfodol, yn enwedig yn wyneb yr heriau yn sgil poblyddiaeth, Brexit a bygythiadau gwladwriaethau fel Rwsia a Tsieina. Mae democratiaeth ryddfrydol yn un o'r gwerthoedd Ewropeaidd allweddol sy'n gorfod cael ei atgyfnerthu yn wyneb yr heriau a'r bygythiadau hyn."
Mae'r Athro Loughlin yn arbenigwr mewn llywodraethu tiriogaethol — ffederaliaeth, rhanbartholdeb, llywodraeth leol ac yn ddiweddar mae wedi cyhoeddi llyfr golygedig o’r enw Human Dignity in the Judaeo-Christian Tradition (Bloomsbury, 2019).