Goleuni arweiniol
14 Mawrth 2022
Yn ddiweddar, dyfarnodd Fforwm Dadansoddi Arwynebau’r DU (UKSAF) Wobr Vickerman i Dr David Morgan, Rheolwr Dadansoddi Arwynebau yn yr Ysgol Cemeg a Sefydliad Catalysis Caerdydd.
Dyfernir Gwobr Vickerman, a enwir ar ôl John Vickerman, arloeswr dadansoddi arwynebau a rhyngwynebau, i ymchwilwyr y rhagwelir y caiff eu hymchwil effaith fawr ym maes dadansoddi arwynebau, ac mae’n cydnabod ymchwil annibynnol o ansawdd uchel ar adeg gynnar gyrfa.
Un o gryfderau ymchwil mawr yr Ysgol Cemeg yw trin a rheoli arwynebau deunyddiau er mwyn cael priodweddau a chatalyddion newydd. Mae deunyddiau fel graphene yn addo chwyldroi’r diwydiannau electroneg ac awyrennaeth. Mae datblygu catalyddion aur ar gyfer cynhyrchu monomer clorid vinyl (VCM) a hydrogen perocsid wedi arwain at brosesau cemegol mwy cynaliadwy a glân. Mae datblygiadau o’r fath yn bosibl oherwydd dulliau cemeg ddadansoddol sy’n cynnig mapio arwynebau ar raddfa atomig.
Mae Dr Morgan ar flaen y gad o ran dadansoddi arwynebau ers dros 20 mlynedd, ac yntau wrth y llyw o ran gwasanaethau dadansoddi’r Ysgol Cemeg ar gyfer gwyddoniaeth arwynebau a chatalysis. Hefyd, mae Dr Morgan yn gwasanaethu fel rheolwr technegol HarwellXPS – Cyfleuster Cenedlaethol EPSRC ar gyfer Sbectrosgopeg Ffotoelectronau Pelydr-X, sy’n cynnig dadansoddi arwynebol i academia a diwydiant.
Meddai Dr Morgan: “Rwyf wrth fy modd yn ennill gwobr Vickerman. Rwy’n angerddol dros ddadansoddi arwynebau a rhyngwynebau, sydd wrth wraidd catalysis, ynghyd ag ystod fawr o sectorau, gan gynnwys y diwydiant lled-ddargludyddion, technoleg batrïau, cynhyrchion fferyllol, a’r awyrofod - meysydd i gyd sy’n llywio’r byd sydd ohoni.”
Mae gan Gaerdydd hanes cyfoethog o wyddoniaeth arwynebol a rhyngwynebol, ac mae ganddi ystod o gyfarpar nodweddu deunyddiau, gan gynnwys ystod o sbectromedrau ffotoelectronau gyda galluoedd trin nwyon. Bydd hyn yn cyflymu corff helaeth o ymchwil yn yr Hyb Ymchwil Drosiannol (TRH) newydd ac yn manteisio ar ddwy dechneg newydd ar gyfer nodweddu - PiFM a TERS, y rhai cyntaf o’u math yn y DU.