Prifysgol Caerdydd yn cefnogi Taith, rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru
10 Mawrth 2022
Ym Mhrifysgol Caerdydd mae corff gweithredol rhaglen Taith Llywodraeth Cymru. Dyma raglen gyfnewid ryngwladol newydd sydd â’r pŵer i helpu myfyrwyr i ddilyn llwybrau gyrfa newydd.
Nod Taith yw helpu 15,000 o ddysgwyr a staff o Gymru i fynd dramor, a 10,000 o ddysgwyr a staff dramor i ddod i Gymru, er mwyn gweithio neu astudio. Mae'n cymryd lle rhaglen Erasmus+ oherwydd ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Mae Taith yn cynnig llawer mwy o gyfleoedd i ddarparwyr addysg yng Nghymru a'u partneriaid rhyngwladol na Chynllun Turing, y gallant hefyd barhau i fanteisio arno.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: “Bydd Taith yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr a staff ym mhob rhan o Gymru, ac ym mhob math o addysg, fynd dramor a dysgu, a fydd yn newid eu bywyd. Bydd hefyd yn dod â dysgwyr ac addysgwyr o bob cwr o'r byd i Gymru er mwyn cyfoethogi campysau prifysgolion a chyflwyno diwylliannau newydd i’n hystafelloedd dosbarth.”
Mae arweinwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn credu bod gan Taith, a fydd ar waith tan 2026 ar ôl i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £65 miliwn ynddi, y potensial i roi profiadau rhyngwladol a rhyngddiwylliannol i ddysgwyr, a fydd yn eu paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd sy’n ymateb i’r newidiadau cyflym sy’n digwydd yn ein byd.
[video]
Mae'r Athro Claire Gorrara, Deon Ymchwil ac Arloesedd Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn credu bod i Taith botensial enfawr o ran helpu myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i ymgysylltu â gweithleoedd amlieithog y presennol a’r dyfodol.
‘Drwy gynnig cyfleoedd gwych i deithio, gweithio ac astudio dramor, mae Taith yn galluogi myfyrwyr i ddod i gysylltiad hanfodol â diwylliannau ac ieithoedd gwahanol a ffyrdd gwahanol o fyw, sy'n datblygu’r meddylfryd byd-eang hwnnw sydd mor ganolog i brofiad unigolyn o’r brifysgol.’
Yn ôl yr Athro Omer Rana, Deon Rhyngwladol Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, mae Taith yn cynnig cyfle gwych i wneud cysylltiadau annisgwyl – er enghraifft, myfyrwyr
sy’n astudio’r celfyddydau a'r dyniaethau’n achub ar gyfleoedd technolegol/entrepreneuraidd ym meysydd y gwyddorau ffisegol a pheirianneg.
“Mae myfyrwyr yn dod i faes Cyfrifiadureg o amrywiaeth o gefndiroedd – yn enwedig drwy ein cwrs trosi a'r Academi Meddalwedd Genedlaethol. Mae'r llwybr i greu busnesau technoleg newydd yn eang iawn. Roedd y diweddar Steve Jobs, arweinydd Apple, yn fyfyriwr yn y Celfyddydau Rhyddfrydol. ‘Mae technoleg wedi’i chyfuno â'r celfyddydau rhyddfrydol, wedi’i chyfuno â'r dyniaethau, yn gwneud i'n calonnau ganu ... yn y dyfeisiau symudol hyn.’ [1] A ninnau’n Brifysgol ag enw da ym maes y celfyddydau a’r dyniaethau, mae'n bwysig cysylltu pob cyfle a mantais y gall lleoliadau cyfnewid rhyngwladol eu cynnig.”
Bydd y rhaglen, dan gadeiryddiaeth y cyn-Weinidog Addysg a’r Cymrawd Gwadd Nodedig, Kirsty Williams, yn berthnasol i’r sectorau addysg uwch, addysg oedolion, addysg bellach ac addysg alwedigaethol, ysgolion ac addysg gwaith ieuenctid.
Bydd y rhaglen yn helpu i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i drawsnewid gwaith ymgysylltu rhyngwladol a datblygu rhagoriaeth yn y sectorau addysg, a hynny drwy gymryd camau cynaliadwy sydd o fudd i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru.
Cyfeirnod:
[1] Steve Jobs: “Technology Alone is Not Enough” – gan Jonah Lehrer
Cylchgrawn The New Yorker, 7 Hydref 2011
https://www.newyorker.com/news/news-desk/steve-jobs-technology-alone-is-not-enough