Ewch i’r prif gynnwys

“Roedd dechrau rhedeg yn rhywbeth ddigwyddodd yn araf bach.”

10 Mawrth 2022

Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd miloedd o redwyr yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd.

Mae’r llwybr 13.1 milltir yn un gwastad a chyflym sy’n mynd heibio rhai o dirnodau eiconig y brifddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, yr Eglwys Norwyaidd a Stadiwm Principality.

Eleni, bydd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, yn cymryd rhan.

Ac yntau’n rhan o #TeamCardiff, mae’r Athro Walford Davies yn un o 350 o staff, myfyrwyr, cynfyfyrwyr a ffrindiau sy’n ceisio codi £70,000 ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ac ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yma, mae’r Athro Walford Davies yn sôn am ddechrau rhedeg yn ystod pandemig COVID-19 ac effaith ymarfer corff ar ei les meddyliol a chorfforol.

---------------------------------------------------------------------------------

Dw i erioed wedi bod nac wedi ystyried fy hun yn rhedwr. Roedd rhedeg yn anodd ac yn ddiflas i mi.

Doeddwn i ddim yn hoffi rygbi na phêl-droed. Roeddwn i’n hoffi chwaraeon raced ac yn mwynhau’r ffocws 1:1 – pêl tennis neu sboncen yn dilyn cyfarwyddyd fy llaw a’m llygad.

Yna, cymerodd gwaith drosodd a gwneud i mi gredu ar gam nad oedd gen i’r amser mwyach.

Roedd y cyfnod clo cyntaf – pan oedd y tywydd, yn gynnar yn ystod y cyfnod hwnnw, yn eironig o brydferth – yn drobwynt. Ydych chi’n cofio? Am flwyddyn dda, roeddwn i wedi bod yn syllu ar feic ffordd brynais i amser maith yn ôl – beic Specialized Allez (dim byd arbennig) – a theimlo’n euog bod y teiars yn yr un cyflwr ag oeddent ar y diwrnod pan ddes i â’r beic adref. Roeddwn i'n ysgrifennu llyfr am Gino Bartali, y seiclwr Eidalaidd gwych o’r 1930au a'r 1940au, a gwnaeth euogrwydd a'm hedmygedd o Gino fy arwain i fyd rhyfedd ymarfer corff yn ystod y cyfnod clo (unwaith y dydd). Wrth i fis Ebrill droi’n fis Mai a chanol haf, daeth beicio o Gaerdydd allan i’r Fro’n rhywbeth nid i dynnu fy sylw oddi wrth sawl peth oedd yn fy herio ac yn achosi straen, ond yn anghenraid, rhywbeth roeddwn i’n gorfod ac yn awyddus i’w wneud – rhan bwysig o’m hiechyd meddwl, yn ogystal â’m hiechyd corffol. Yna, daeth y gaeaf, a sylweddolais mai beiciwr tywydd teg oeddwn i.

Beth allwn i ei wneud i ddiwallu’r angen nad oeddwn i’n gallu cael gwared arno bellach, i wneud ymarfer corff a bod allan yn yr awyr iach, yn sylwi ar bethau ac yn sylwi ar bethau'n newid? Roedd yn gas gen i feddwl am redeg o hyd. Roedd yr ychydig lapiau bach cyntaf o lwybr lleol, mewn esgidiau hollol anaddas – o, yr embaras – cynddrwg â’r disgwyl. Dw i erioed wedi bod nac wedi ystyried fy hun yn rhedwr (dyna fyddwn i’n ei ddweud drosodd a throsodd, fel mantra). Tan i chi droi rownd – fel gyda chymaint o bethau – a sylweddoli eich bod chi wedi bod yn rhedeg bob dydd ers amser maith. Roedd dechrau rhedeg yn rhywbeth ddigwyddodd yn araf bach. Daeth yr amser i fuddsoddi mewn esgidiau addas, a sylweddolais yn sydyn – eto, allan o unlle, wrth redeg heibio coeden sycamorwydden ac eglwys ganoloesol (mae manylion yn bwysig) – fy mod i’n rhedeg ar flaenau fy nhraed: rhywbeth nad oeddwn i’n gwybod ei fod yn bosibl hyd yn oed, heb sôn am y ffaith bod gwneud hynny’n golygu eich bod yn rhedeg mewn ffordd sy’n llawer llai cyflym a chyfforddus. Allwn i ddim credu mai fi oedd hwn.

Daeth rhedeg pum lap o lwybr bach – mewn pentref yn y Fro erbyn hyn – yn rhedeg 5K, yna 10K, yna 20K. Roeddwn i’n dal i fwynhau rhedeg ac yn mwynhau ei wneud yn fwy oherwydd y paradocsau y mae rhywun yn eu profi wrth redeg: datgysylltiad a chysylltiad â’r rhai rydych chi’n eu gweld; llonyddwch ac ewfforia; ymdeimlad o gyffredinedd dwfn popeth a hwb ysbrydol; ymwybyddiaeth well o fanylion y byd a phellter meddwl ym myd rhedeg amserol ac anamserol.

Roedd ymbaratoi ar gyfer rhedeg yn y tywyllwch bob nos ar ôl diwrnod wrth y sgrin yn seremoni i edrych ymlaen ati: gwisgo’r dillad, y clustffonau er mwyn gwrando ar restr chwarae newydd (alla i ddim rhedeg heb gerddoriaeth – dawns, roc neu indie, ond nid podlediadau, sydd ddim yn fy ngwthio ymlaen) a thortsh rhedeg wedi’i strapio ar draws ar fy mrest a'm hysgwyddau (gwyn ar y blaen a choch ar y cefn).

Y pethau bychain sy'n aros yn y meddwl ac sy’n cael eu galw i gof pan fydda i mewn cyfarfodydd drwy’r dydd ac yn meddwl am gael rhedeg y noson honno: sut mae’r tortsh yn taflu goleuni ar y glaw; sut mae briallu’n ymddangos yn sydyn ar fin y ffordd pan nad oedd unrhyw arwydd ohonyn nhw i’w weld neithiwr; sut mae eich cyd-bentrefwyr yn gwneud pethau ar amser penodol, sy’n golygu eich bod chi’n rhedeg heibio iddyn nhw yn union yr un man; sut mae rhedeg dros y llwybr troed bach ar draws nant y pentref fel petai o bwys mawr; pa mor lwcus ydw i fy mod i’n gallu gwneud hyn, gan wybod y daw amser pan na fydda i’n gallu. A chan fy mod i’n ofergoelus, dw i’n gwneud pethau bach defodol wrth gyrraedd mannau penodol: sylwi ar ffenest yn uchel i fyny’r Tŷ Mawr, sydd bob amser wedi’i goleuo; arafu o dan y goeden sy’n cysgodi rhag yr haul neu dywydd y gaeaf; cyffwrdd â’r ddwy garreg fawr yn y wal tu allan i’r tŷ, sy’n llyfn fel mam y perl, bob tro cyn dechrau. Felly, er mwyn bod yn iawn, mae’n rhaid i redeg fod yn ddefod. Mae fy nheithiau rhedeg yn gylchol ond yn diffinio ‘rhyfedd’ i’r dim – rhywbeth rydych chi’n ei adnabod fel cefn eich llaw, ac eto rhywbeth sy’n hollol anghyfarwydd i chi.

Erbyn hyn, dw i’n rhedeg ym mhob math o dywydd ac yn teimlo'n euog, unwaith eto, am y beic. Mae hwnnw wedi’i gloi tu allan, yn aros i mi – rhedwr, credwch chi neu beidio – i syrthio mewn cariad ag ef unwaith eto.

Damian Walford Davies

----------------------------------------------------------------------

Cynhelir Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul, 27 Mawrth 2022.

Rhannu’r stori hon