Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda Chyfieithu: Theori ac Ymarfer

10 Mawrth 2022

Ein cwrs FutureLearn rhad ac am ddim, Gweithio gyda Chyfieithu: Mae modd ymrestru nawr ar gyfer Theori ac Ymarfer ac mae'n agored i bawb. Bydd y cwrs nesaf yn dechrau ar 14 Mawrth 2022.

Cyfieithu yw un o’r gweithgareddau dynol mwyaf sylfaenol sy’n golygu y gallwn ni ymwneud â’n gilydd o fewn diwylliannau yn ogystal â rhyngddyn nhw.

Gan ddefnyddio ymchwil ac arbenigedd yr Ysgol Ieithoedd Modern a Phrifysgol Namibia, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddod o hyd i gyfoeth o awgrymiadau ymarferol yn ogystal â gwybodaeth am natur cyfieithu mewn byd cynyddol amlieithog.

"Roedd y cwrs wedi'i drefnu'n dda, yn ddifyr ac yn bodloni fy nisgwyliadau'n llawn. Fe wnes i fwynhau’r elfennau ymarferol yn arbennig. Unwaith, gofynnwyd inni wneud cyfieithiad ffonetig o linellau cyntaf Epig Gilgamesh; yna cafwyd dau gyfieithiad rhyngieithol, fel rydyn ni'n eu galw, o gerdd Saesneg o'r ail ganrif ar bymtheg, a dirwy barcio!"

"Roedd yn ddefnyddiol cael ymarfer cyfieithu yng nghwmni gweithwyr proffesiynol eraill a chael adborth gwerthfawr. Roedd yr addysgwyr yn ymatebol iawn drwy gydol y cwrs gan ddarparu llyfryddiaeth ar ddiwedd pob wythnos i ni gael ehangu ein gwybodaeth y tu hwnt i'r cwrs." Adam Kosa, myfyriwr Gweithio gyda Chyfieithu, 2019.

Crëwyd y cwrs hwn gan Dr Cristina Marinetti, Dr Dorota Goluch a'r Athro Loredana Polezzi o'r Ysgol Ieithoedd Modern ac Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs, ewch i wefan FutureLearn.

Rhannu’r stori hon