Prosiect newydd yn agor fferyllfa i blant ysgol
10 Mawrth 2022
Mae'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol wedi lansio cynllun ymgysylltu newydd arloesol i ysgolion heddiw, i gyd-fynd â Diwrnod Aren y Byd.
Drwy ehangu’r mynediad at Fferylliaeth, y nod yw ysbrydoli disgyblion o bob cefndir i ystyried astudio fferylliaeth fel nod cyraeddadwy. Gyda phrinder swyddogol o fferyllwyr yn y DU, bydd y prosiect yn annog disgyblion i ddilyn gyrfa mewn fferylliaeth a’u hannog i ymarfer yn eu rhanbarthau cartref i helpu i gynnal rôl allweddol fferyllfeydd wrth ddarparu gofal i gleifion yn eu cymunedau.
Mae Arweinydd y Prosiect, Wyn Davies, wedi gweithio'n agos gydag athrawon, disgyblion, rhwydweithiau gyrfaoedd, ymarferwyr gofal iechyd ac animeiddwyr, i ddatblygu cyfres o weithgareddau a fideos sy'n helpu athrawon i gyflwyno cynnwys TGAU bioleg cwricwlwm CBAC. Er y gobeithir i’r prosiect gael ei ymestyn i sawl rhan o'r maes llafur, mae'r peilot yn seiliedig ar gynnwys sy’n ymwneud â’r aren.
Roedd yr Uned Arennol yn Ysbyty Treforys yn allweddol i ddod â chynnwys yr arennau yn fyw drwy gyfweliadau fideo ac animeiddiadau. Bydd y gwelededd hwn yn helpu i ddangos i ddisgyblion ysgol sut y gellir defnyddio'r hyn y maent yn ei ddysgu yn yr ysgol yn y byd go iawn, yn enwedig mewn perthynas â fferylliaeth.
I ddathlu Diwrnod Aren y Byd, mae'r cynllun wedi lansio yn ysgolion peilot Cwm Brombil ac Ysgol y Creuddyn. Roedd gan y ddwy ysgol gysylltiedig law yn nechreuad y prosiect ac mae'r cyd-gynhyrchiad arloesol hwn wedi gweld cefnogaeth frwdfrydig gan yr holl randdeiliaid.
Dywedodd Wyn Davies, "Mae gweithio gydag amrywiaeth mor eang o randdeiliaid wedi bod yn brofiad gwerth chweil. Gobeithiwn y bydd yn cyflawni ein nod o ganiatáu i ddisgyblion weld sut mae'r hyn y maent yn ei ddysgu mewn ystafelloedd dosbarth yn eu cefnogi mewn gyrfaoedd yn y dyfodol a gobeithio y bydd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fferyllwyr."